Er iddo gael ei eni yn Rhydychen bell, yn Llanystumdwy y maged Twm ac un o'n hogia ni ydy o. Fe welwyd hynny'n glir yn 2003 pan lwyddodd i gipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn gan ddychwelyd i Eifionydd i groso twymgalon. Yn ogystal â bod yn fardd medrus y me Twm yn ddarlledwr, yn ganwr ac yn ysgrifennwr crefftus. Dymunwn yn dda iawn iddo ar ei swydd newydd ac edrychwn ymlaen at ei weld yn tanio dychymyg plant Cymru ac yn rhoi iddynt brofiadau y byddant yn eu cofio am byth. Hwyl fawr i ti Twm. Y Ffynnon
|