Un a fu'n cydweithio gydag ef am flynyddoedd maith ac a'i hadwaenai'n dda oedd Mr Robert T Price, Cricieth a rhannau o deyrnged Mr Price iddo a geir yma.
"Ganwyd Dr George ar 20fed Hydref 1912 yng Ngarth Celyn, ac yno y bu'n byw gydol ei oes.
Ym 1953 daeth Greta yn wraig iddo; magwyd pedwar o blant ar eu haelwyd ac roedd eu llwyddiant hwy yn destun balchder mawr iddo. Pe byddai wedi cael dewis unrhyw fan ar y ddaear i dreulio ei ddyddiau olaf, Garth Celyn yn ddigamsyniol fyddai'r lle hwnnw ac yno yn ei gwsg yr ymadawodd a'r fuchedd hon.
Roedd tri adeilad yn ganolog i fywyd Dr George. Y cyntaf yn naturiol oedd Garth Celyn.
Yr ail, heb ddim amheuaeth, oedd yr adeilad yr ydym ynddo y funud hon - Capel Berea. Yma y cafodd ei addysgu fel plentyn yn y ffydd Gristnogol - ffydd a olygai cymaint iddo drwy ei fywyd. Yma y bedyddiwyd ef ac yma ar nos Sul ym 1943 y bu farw ei fam, Mrs Anita George - gwraig uchel iawn ei pharch yn y gymuned yma yng Nghricieth - tra'n canu'r organ yng ngwasanaeth yr hwyr.
Tra bod capeli yn cau ledled Cymru, mae'r fflam yn dal i gynnau yma ym Merea oherwydd ymroddiad dyrnaid o addolwyr ffyddlon - Miss Mary Howell Williams, Mr David Glyn Williams, Mr Berwyn Jones a'i Anrhydedd y Barnwr Dewi Watkin Powell.
Byddai'r cyfeillion hyn yn mynychu pob gwasanaeth a gynhelid yn y capel hwn. Dyna sut bod Berea yn golygu cymaint iddo a bydd y rhai sydd wedi methu a dod i mewn i'r Capel ar gyfer y gwasanaeth hwn yn gwerthfawrogi pam na ellid ei gynnal yn unlle arall.
Y trydydd adeilad a olygai cymaint i'r Dr George oedd y swyddfa yn 103, Stryd Fawr, Porthmadog, gyda'r enw
William George & Son yn fras uwch er ben - enw yr oedd mor falch ohono.
Yn yr adeilad hwn y treuliodd 70 mlynedd yn gweithio fel cyfreithiwr, ac fel ei dad o'i flaen daeth yn un o gyfreithwyr mwyaf blaenllaw Cymru. Roedd yn ymroddedig fel cyfreithiwr - yn eiriolwr diguro ac yn ennyn parch ei holl gydweithwyr, ond gwae i'r sawl fyddai'n ei wrthwynebu.
Cyfreithiwr gweithredol yng ngwir ystyr y gair oedd Dr George. Byddai'n gweithio diwrnod llawn yn y swyddfa cyn ei ddamwain anffodus y llynedd ond hyd yn oed ar ôl hynny parhaodd gyda'i waith cyfreithiol yng Ngarth Celyn gyda chymorth Elizabeth a staff y swyddfa.
Yn ystod ei yrfa, hyfforddwyd o leiaf chwe phrentis o gyfreithwyr o dan ei ofal - roedd ei gyfarwyddyd yn drwyadl a'i arweiniad yn gadarn ac mae ein dyled iddo yn enfawr. Daeth bron bob un o'i brentisiaid yn gyfreithwyr amlwg yn yr ardal ond crwydrodd un oddi ar lwybr cul y gyfraith a mentro i faes gwleidyddiaeth - Elfyn Llwyd oedd hwnnw a dilynodd Dr George ei yrfa yntau gyda diddordeb gan ymfalchïo yn ei lwyddiant.
Mae'n anodd gwybod sut i ddisgrifio Dr George - fel Cyfreithiwr, Barnwr yn Llys y Goron, Awdur, Gwleidydd, Cynghorydd, Cristion, Heddychwr, Organydd, Golffiwr, Gwenynwr mae'r rhestr y ddiddiwedd
ac nid oes amser yma i fanylu ar lwyddiannau a gallu rhyfeddol y gŵr hwn.
Mae dyled y gymuned leol i Dr George yn anfesuradwy. Gwasanaethodd am flynyddoedd maith fel Cynghorydd Sir a Thref ac roedd lles tref a thrigolion Cricieth yn agos iawn at ei galon. Gallwn nodi nifer fawr o achosion y bu'n gweithio drostynt - fe enwaf un yn unig sef prosiect Ysbyty Madog ac mae'n drist na chafodd weld cwblhau'r ysbyty newydd yn Nhremadog wedi iddo ymladd mor galed i'w sefydlu.
Ni fyddai unrhyw deyrnged i Dr George yn gyflawn heb grybwyll cyfraniad ei annwyl wraig Greta i'w
fywyd. Bu ei gofal a'i chefnogaeth hi am dros hanner can mlynedd yn gymorth amhrisiadwy iddo a'i gofal yn ystod ei waeledd yn rhyfeddol. Yn y swyddfa, Dr George oedd yn teyrnasu ond Greta yn sicr oedd y frenhines ar yr aelwyd a gwerthfawrogir ei ffyddlondeb a'i chefnogaeth gan bawb sydd yn ei hadnabod.
Mae yna gymaint mwy yr hoffwn ei ddweud amdano ond credaf bod yr ychydig eiriau hyn yn creu darlun bras o'r cymeriad unigryw yma. Diolch am gael bod yn gysylltiedig a Dr George am dros hanner can mlynedd a diolch am gael ei adnabod."