Wn i ddim am y swperau ond yn sicr cafodd llawer o drigolion Eifionydd y profiad o frecwasta fel brenhinoedd yn ddiweddar.
Trwy garedigrwydd Evan, Kit a Jim Ellis, cynhaliwyd brecwast arbennig iawn yn Llwyndyrus Ffarm yn ystod un wythnos benodol y mis diwethaf.
Roedd y lon hir sy'n arwain tua'r ardal yn ymdebygu i'r M6 ar fore Iau, 28 Ionawr wrth i griwiau fynd a dod i'r fferm.
Yn aros amdanynt yno yr oedd amrywiaeth anhygoel o ddanteithion boreol o'r
Weetabix cyffredin i'r gymysgfa hyfrytaf o fuseli a iogwrt gyda ffrwythau ffresh ynddo i'r platiad anferth o gig moch ac ŵy a phwdin gwaed a thost a marmaled a hyd yn oed ambell enllyn cartref wedi ei wneud gan Kit!
Cyfrannwyd y bwyd i gyd gan fusnesau lleol sef gan Jonathan Williams Ellis, Glasfryn, Cwmni Traed Moch, Asda, Pwllheli, Londis, Y FFor, Hufenfa De Arfon a Harlech Frozen Foods a mawr oedd diolch y trefnwyr am eu cefnogaeth hael.
Mae yr wythnos arbennig hon wedi cael ei dynodi ers rhai blynyddoedd yn Wythnos Genedlaethol y Brecwast a gweithgaredd oedd hwn a ysgogwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru oedd yn awyddus i gefnogi'r syniad o frecwasta ac ar yr un pryd godi arian at elusen.
Ambiwlans Awyr Cymru oedd yr elusen a gefnogwyd y tro hwn.
Un o'r rhai a welwyd wrth y bwrdd mawr ym mharlwr Llwyndyrus oedd Gwyn "Moi" Parry, 'Rorsedd Fawr, Pencaenewydd.
Roedd ganddo ef reswm arbennig dros gefnogi gan iddo orfod cymryd mantais o wasanaeth yr ambiwlans yn ddiweddar wedi iddo dorri ei goes tra'n gweithio ar fferm Brysgyni yn ochrau Clynnog.
Braf yw cael dweud fod Gwyn yn gwella'n dda ar waetha'i anaf ac nad yw'r ddamwain wedi dweud ar ei stumog o gwbwl!
Yn ôl Kit Ellis bu'n fore llwyddiannus iawn ond roedd yn barod iawn i gyfaddef iddi gael noson ddi-gwsg y noson gynt yn meddwl a oedd wedi cofio pob dim ac iddi godi'n blygeiniol "tua'r pump 'ma" i ddechrau paratoi.
Cafodd gymorth parod yn y gegin gan Sian Edwards, Bwlch Ffordd, Y Ffor a Sioned Williams, Hendre, Edern, Bu Jim ynghyd a Leusa Parry, Glanllynnau a Catrin Owen, Caerau, Dinas yn gymorth mawr gyda'r gweini a'r golchi llestri.
Cyrhaeddodd y cwsmeriaid cyntaf tua saith o'r gloch ac ar un cyfnod roedd ugain o bobl wrth y byrddau ar yr un pryd.
"Yr adeg hynny roedd arna i ofn y byddai pethau'n mynd yn draed moch, a Evan yn chwys dyferol yn golchi llestri" meddai Kit.
Ond wir, wedi gweini 57 brecwast, llwyddiant mawr fu'r cyfan ac wrth i bawb gyfrannu £10 am eu bwyd, llwyddwyd yn y diwedd i godi £760.
Yn ystod yr un wythnos cynhaliwyd brecwastau hefyd ar Fferm Crugeran yn Llyn ac ym Mart Bryncir.
{Hoffai Kit ac Evan ddiolch y nfawr i bawb a gefnogodd y fenter yn unrhyw ffordd}