"Dwi'n trio bod" oedd ei hateb, ac ar 么l cymryd golwg fanylach ar ei gwaith, eglurodd y g诺r ei fod yn berchen ar oriel ar Benrhyn Cilgwri ac, yn y fan a'r lle, cafodd Carys gynnig arddangos yno.
Er ei bod yn byw ers rhai blynyddoedd bellach ym Mhorthysgaden, Tudweiliog gyda Gari, ei phriod, a Cian a Beca, eu plant, merch o ardal Y Ffynnon yw Carys.
Fe'i magwyd ar fferm Brynaerau, Rhosfawr, y trydydd o chwe phlentyn Huw a'r ddiweddar Eurwen Jones.
Ar 么l gadael Ysgol Glan-y-M么r, Pwllheli cwblhaodd Carys gwrs sylfaen mewn Celf yng Ngholeg Menai, Bangor cyn camu ymlaen i ddilyn cwrs gradd mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Gogledd Stafford, gan arbenigo mewn printiadu colograff yn bennaf.
Dychwelodd adref ar 么l graddio ac yn ogystal a ffermio trodd ei llaw at ddarlunio llyfrau, yn cynnwys y cyfresi poblogaidd Cyfres Tecwyn y Tractor a Chyfres Chwedlau Cymru.
Bu hefyd yn dylunio logos, paeintio wynebau a gweithio fel artist mewn ysgol (ymysg pethau eraill) tra'n ei chymhwyso'i hun yn athrawes Gelf.
Ddeng mlynedd yn 么l fe'i penodwyd yn Athrawes Gelf yn ei hen ysgol uwchradd ym Mhwllheli a chaiff ei chydnabod fel athrawes ysbrydoledig sy'n llwyddo'i dynnu'r gwaith gorau posibl o'i disgyblion.
Mae'n arddangos dan ei henw gorseddol 'Carys Bryn', a'r arddangosfa hon yn 'The Artroom'. Parkgate yw'r ail dro yn unig i'w gwaith gael ei weld mewn oriel broffesiynol.
Gwelwyd rhai o'i phaentiadau ymhlith arddangosfa o waith Athrawon Celf yn Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog yr haf diwethaf a bydd yn rhannu ystafell yno unwaith eto'r mis nesaf gydag Elin Huws, Athrawes Gelf Ysgol Botwnnog.
Pwysleisia Carys mai megis dechrau ymgyfarwyddo 芒'r greffi o baentio unwaith eto y mae hi mewn gwirionedd, a chael pleser wrth drin y paent sy'n bennaf bwysig.
Tua ugain o baentiadau cyfrwng cymysg a welir yn yr arddangosfa bresennol ac mae ei arddull fynegiadol lled-haniaethol yn hynod drawiadol ac apelgar.
Ceir yma luniau beiddgar o gychod, tractorau. calonnau a cheffylau. i gyd wedi'u paentio mewn arddull rydd sy'n adlewyrchu natur hwyliog ac egniol yr artist.
Mae'r modd mynegiannol y cafodd y paent ei chwyrlio a'i daflu chwit chwat ar draws y cynfas yn atgoffa rhywun o waith Jackson Pollock, ond yr hyn sy'n trawo rhywun yn bennaf yw ei dealltwriaeth a'i defnydd medrus o liw.
Yn draddodiadol, mewn stiwdio bwrpasol y gwelir artistiaid yn gweithio, ond yn y sied ddefaid bydd Carys yn creu ei phaentiadau, gan fod yno ddigon o le i beidio gorfod c1irio ar ei h么l a digon o le i adael ei lluniau allan dros nos i sychu.
Yn anffodus, ni all Carys Bryn baentio yn ei 'stiwdio' arferol ar hyn o bryd, gan fod defaid Porthysgaden yno'n wyna.
Felly, am gyfnod beth bynnag, rhaid setlo am yr hen sgubor!