Lleolir 'Cei Bach', sy'n ddrama ar gyfer plant meithrin, yn Borth-y-Gest yn bennaf, ond bydd ynddi hefyd olygfeydd o leoedd eraill yn y fro.
Daw dau o'r actorion ifanc o ardal Y Ffynnon, sef Erin Dwyfor Roberts, Llystyn Canol, Bryncir, a Gwion Llwyd Jones, Gwernddwyryd, Penmorfa.
Mae Erin, sy'n 9 oed a Gwion sy'n 7, ill dau
yn ddisgyblion yn Y sgol
Gamdolbenmaen.
Daw'r tri arall o Ysgol
Eifion Wyn, Porthmadog.
Dewiswyd y plant o blith y 120
o'r rhai a gafodd glyweliad mewn gwahanol ysgolion cynradd yn nalgylch Ysgol Eifionydd yn ystod y mis diwethaf.
Dipyn o gamp, felly, i ddau ohonynt ddod
o ysgol fach Y Garn.
Dywedodd cynhyrchydd y gyfres, Siân Teifi o gwmni Sianco, ei bod wedi rhyfeddu at dalentau plant lleol a'i bod yn falch o gael rhoi cyfle i bump ohonynt ymddangos yn 'Cei Bach'.
Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar hynt a helynt Prys Plismon a Mari ei
wraig, sy'n cadw gwesty gwely a brecwast mewn pentref glan y môr.
Bydd Erin a Gwion yn dechrau ffilmio yn ystod yr wythnosau nesaf, ac edrychwn ymlaen at eu gweld ar y sgrin fach.
|