Merch o Bencaenewydd yw Catherine - Catherine Lewis, Tanybryn gynt - ac yn y rhifyn cyfredol o 'Y Gadwyn', cylchgrawn Eglwys y Crwys, Caerdydd, mae'n ysgrifennu am weithgareddau'r ysgol Sul erstalwm.
Gall llawer ohonom uniaethu a'r hyn a ddywed am yr arholiad sirol a sasiwn y plant. Dyma ran o'i hysgrif:
Ar y sadwrn penodedig roedd pawb i ymgynnull yn y festri gyda'i ben holder a'i botel inc. Doedd dim llawer ohonom yn berchen ar fountain pens yn ysgol sul Pencaenewydd y cyfnod a doedd beiro ddim yn bodoli.
Yr ysgol Sul oedd yn ymorol am y blotting paper holl bwysig ac am y papur wrth gwrs.
Roedd y rheolau mor gaeth ag unrhyw arholiad ysgol heddiw, pawb yn eistedd ddigon pell oddi wrth ei gilydd fel ei bod yn amhosib cael cipolwg ar bapur unrhyw un arall, a phawb i droi'r papur cwestiynau drosodd ar yr un pryd.
A'r canlyniadau - roedd tri dosbarth, os cofiaf yn iawn, yr hufen oedd i gael tocyn llyfr gwerth banner Coron, a'r llyfr i'w gyflwyno yn Sasiwn y Plant; y rhai llai hufennog, megis fy hunan oedd a
gormod o flots ar eu papur yn llythrennol, ac fel arall, yn cael tocyn llyfr gwerth deuswllt, eto i'w gyflwyno yn Y Sasiwn, a'r gweddill yn cael eu gwobrwyo yn yr Y sgol Sul.
Ond uchafbwynt yr holl brofiad ysgrythurol hwn i mi oedd cael gorymdeithio ar ddiwrnod mawr Y Sasiwn tu ôl i fand Trefor trwy dref Pwllheli.
Cofio teimlo'n sobor o swanc yn fy nillad newydd a brynwyd yn arbennig ar gyfer yr amgylchiad. Ond yn goron ar y diwrnod oedd y sgram oedd yn ein haros yng Nghaffi Gwalia yn y stryd fawr, mae yno o hyd (y caffi felly!), cyn inni ei throi hi am adref ar fotor coch Clynnog a Threfor.
Does gen i fawr o gof am y llyfrau a dderbyniais ond am un. Fy nhad oedd wedi dewis hwnnw am ryw reswm o Caxton Pwllheli, yr unig siop oedd yn gwerthu llyfrau ar y pryd - Adroddiadau'r Co' Bach oedd ei ddewisiad.
Doedd mam ddim yn impressed o gwbl. 'Beth ddaeth dros dy ben di i brynu llyfr o'r fath i'r hogan.' Rhywbeth fel y 'Secret Seven' neu'r 'Famous Five' oedd gan fy mam mewn golwg mae'n debyg ond gweld cyfle oedd fy nhad rwy'n siwr (fel ffan mawr o'r Noson Lawen) i gael orig fach ddifyr gyda'r nosau yn chwerthin o'i hochor hi wrth ddarllen yr adroddiadau digrif hyn, a roeddwn i'n ddigon hapus â'i ddewisiad.
'Pob pant a gyfodir. Pob mynydd a bryn a ostyngir, y gŵyr a wneir yn uniawn a'r anwastad yn wastadedd'. Dyna'r dyfyniad y byddai ein hathro daearyddiaeth yn ysgol Pwllheli, y diweddar John Williams, yn ei roi inni i gyfleu'r effaith gafodd gostyngiad yn y tymheredd ar ein byd filiynau o flynyddoedd yn ôl - darlun mor gryno ac mor weladwy.
Rhan o fawredd dysgu darnau ar y cof, boed yn farddoniaeth o'r Beibl neu o unrhyw ffynhonnell arall, dybiwn i, yw bod yna eiriau y gallwn eu hatgyfodi i ddisgrifio sawl sefyllfa, ddwys neu ddoniol, yn y ffordd orau bosibl.
Rwy'n siwr y bydd Gruffudd a'i gyfoedion o Ysgol Melin Gruffudd yn cofio ac yn gallu gwerthfawrogi am flynyddoedd i ddod y geiriau,
'Cenwch yn llafar i'r Arglwydd yr holl ddaear...'
Catherine Jobbins