Mae Tenovus wedi derbyn dros £5,000 i'r coffrau wrth eu gwerthu yn eu siop ym Mhwllheli.
Yn awr, oherwydd na fu'n rhy dda ei iechyd a'r ffrwt wedi cilio braidd y mae Elwy yn rhoi'r gorau iddi.
Yr wythnos hon cafodd lythyr gan Peter Searle, Cyfarwyddwr Masnachol Tenovus, yn diolch iddo am ei 'gefnogaeth ryfeddol' ac yn dymuno'n dda iddo ar ei 'ymddeoliad.'
Bu hon ynt joban llawn-amser, fwy neu lai, i Elwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Treuliodd oriau bwygilydd yn y garej efo'r fwyell - yn union fel pe bai mewn busnes, mewn gwirionedd.
Roedd ym mhob bwndel a dorrai rhyw 70 o goed tân ac os gwnewch y sým y mae 70 x 7,142 bron yn hanner miliwn o briciau -wel, 499,940 i fod yn fanwl!
Mynd ati i wneud rhyw gymun o fwndeli a wnaeth o bum mlynedd yn ôl, a chanfod yn sydyn iawn eu bod yn gwerthu fel tân gwyllt.
Ar y dechrau ymlafniai i ddatgymalu hen balets i gael coed, ond daeth gwaredigaeth trwy dderbyn gweddillion gan Jewsons, Trefor Banks, yr adeiladydd o Bwllheli a Gwilym Hughes, Mynytho, ymysg eraill.
Mae'n ddiolchgar iawn i'r cyflenwyr i gyd ac i bawb a brynodd fwndeli.
'Roedd llawer yn eu prynu yn anrhegion i'r henoed. Ni fethodd Elwy unwaith â chyfarfod â'r gofyn: bu ganddo'n wastad stôr wrth gefn.
Hoffai'n arw pe bai rhywun arall yn camu i'r bwlch. Y mae llawer yn crefu am goed tân - a Tenovus yn haeddu pob dimai a ddaw o'r gwerthiant.
|