³ÉÈËÂÛ̳

Explore the ³ÉÈËÂÛ̳
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

³ÉÈËÂÛ̳ Homepage
³ÉÈËÂÛ̳ Cymru
³ÉÈËÂÛ̳ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

³ÉÈËÂÛ̳ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ffynnon
Gwyn Owen Tarddiadau
Hydref 2005
Yn Llyfrgell Bae Colwyn o 8 Hydref hyd 19 Tachwedd, cynhelir arddangosfa o baentiadau dan y teitl 'Tarddiadau' gan un o'n bechgyn ni yma yn Eifionydd.
Gwyn Owen yw'r arlunydd ac mae'n fab i Mrs Owen a'r diweddar Barch Stanley Owen, Maesgwyn, Cricieth.

Wedi treulio'i flynyddoedd cynnar yn Ysgol Gynradd Cricieth ac Ysgol Eifionydd, Porthmadog, aeth Gwyn i Goleg Celf Wrecsam ac yna astudiodd ymhellach yng Ngholeg Celf Caerdydd cyn cychwyn ar ei yrfa fel athro Celf a Dylunio, yn Lerpwl i gychwyn ac yna yn Ysgol Bryn Elian, Hen Golwyn, gyrfa a barhaodd am gyfanswm o 33 blynedd.

Mae'n dal ym myd addysg gan ei fod erbyn hyn yn diwtor rhan amser mewn Celf a Dylunio yng Nghanolfan Ddydd Llys Elian, Bae Colwyn, ond bydd hefyd yn treulio cyfran helaeth o'i amser hamdden yn paentio. Gydag olew neu baent acrylig y byddai'n arfer paentio ond yn ddiweddar bu hefyd yn arbrofi gyda dyfrliw a dyna'r cyfrwng a ddefnyddiodd ar gyfer cynhyrchu'r casgliad hwn o'i waith. Gall hyn fod yn gryn her ar brydiau, meddai, gan ei fod yn ddull hollol wahanol o baentio ac nid yw mor hawdd cywiro camgymeriad - hefyd gall fod ychydig yn ddiflas disgwyl i'r lliwiau sychu cyn gweld y gwaith terfynol!

Yma yn Eifionydd, 'y fro rhwng môr a mynydd', y bydd yn cael yr ysbrydoliaeth i baentio gan amlaf. Bydd yn dychwelyd at ei wreiddiau bron bob penwythnos gan fod ganddo deulu agos yn dal i fyw yn yr ardal - ei fam yng Nghricieth, a'r ddwy ferch - Siân yn wraig i Alwyn, Fferm Trefan, Llanystumdwy, a Gwenan, yn wraig i Geraint, Llystyn Canol, Garndolbenmaen. Mae gan y ddwy ohonynt blant ifanc a bydd chwech o wyrion bach yn falch iawn o weld taid.

Nid yw'n rhyfedd felly bod yr arddangosfa yn cynnwys yn bennaf baentiadau o fannau fel Cwm Pennant, Moel Hebog, Ynys Cynhaearn, Talhenbont, Afon Dwyfor a Thraeth Cricieth. Yn y llun uchod, gwelir rhai o'i baentiadau o'r ardal hon yn y cefndir.

Gobeithio y bydd nifer fawr o bobl yn manteisio ar y cyfle i weld yr arddangosfa a thrwyddynt yn mwynhau harddwch a thawelwch Eifionydd - yng ngeiriau'r arlunydd ei hun - "Rwy'n gobeithio bod yr arddangosfa yna'n cyfleu llonyddwch a'r teimlad o 'fod yno' i'r sawl sy'n edrych ar y lluniau"

Mae cardiau o rai o'r gweithiau hyn ar werth mewn siopau yng Nghricieth a Phorthmadog ac yn Swyddfa Bost Pantglas.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
³ÉÈËÂÛ̳ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý