Dyma wnaeth Dyfed Bowen o Landysul, ar raglen deledu Ar y Ffordd S4C n么l yn mis Rhagfyr. Dyma'i brofiadau. Erthygl gan Dyfed Bowen o Llandysul
"Ar 么l ennill cystadleuaeth Uned 5, S4C, Ar y Ffordd cefais y cyfle i ddysgu gyrru ac i basio fy mhrawf gyrru yn rhad ac am ddim, yr unig beth oedd, roedd rhaid imi wneud hyn o flaen camerau teledu. Roeddwn i wedi cael ambell wers tua blwyddyn a hanner yn 么l ond penderfynais brynu beic modur yn lle. Fe anghofiais am yrru car. Erbyn nawr mae fy ffrindiau ysgol i gyd wedi mynd i chwilio am eu ffortiwn yn y ddinas ddu, dwi'n lwcus ges i jobyn cwshi S4C fel fy mod i yn gallu cael y rhyddid i fynd lle bynnag fi moyn pryd bynnag fi moyn. Cafodd pob un o'r gwersi eu ffilmio gan dri camera tu fewn i'r car. Ambell dro roedd y criw tu allan yn ffilmio hefyd. Roeddwn yn canolbwyntio shwt gymaint ar y gyrru doeddwn i ddim yn rhoi llawer o sylw i'r camer芒u. Ond dwi'n credu fod Helen, fy athrawes wedi bod yn fwy ymwybodol o'r camer芒u oedd yn gwylio ei phob symudiad a gorchymyn hi. Rhaid cofio bod enw da Helen 'ar y lein' fel petai. Roedd canlyniad fy mhrawf i hefyd yn mynd i adlewyrchu yn dda neu'n ddrwg ar y math o hyfforddiant roedd Helen yn ei roi. Y peth anoddaf am yr holl raglen oedd trial cael y Gogs i ddeall fi'n siarad. Dwi'n deall nhw'n siarad neu'n 'mwydro' yn iawn! Falle achos bod S4C yn defnyddio gormod ohonyn nhw ar y teledu neu falle achos bod ni'r Hwntws yn marw mas, ta waeth. Rhaid i mi ddweud mae'n gwneud i fi deimlo yn eithaf arbennig. Roedd pawb yn meddwl fod yr acen yn ddiddorol ac ambell un yn treial dweud pethau fel 'man y man' a 'joio mas draw'. Roedd y prawf ar y 10fed o Ragfyr, bore dydd Sadwrn pythefnos cyn y Nadolig yng nghanol Bangor, gr锚t ife! Yn gynnar iawn! Ugain munud i naw yn y bore. Felly roedd trwy'r dydd gyda fi i lefain neu ddathlu, roeddwn yn gobeithio yn fawr y buaswn yn pasio oherwydd dwi'n gwybod fy mod i yn gallu gyrru yn saff a chyda hyder. Ond roedd digon posib i unrhyw beth fynd o'i le ar y dydd. Mae'r profiad wedi bod yn un bythgofiadwy, ac mae fy 'Mos' wedi rhoi caniataid i mi treial yr X Factor blwyddyn nesaf felly falle bydd mwy o gyhoeddusrwydd i siop fach Llandysul! Wel os nad ydych yn siwr os ydw i wedi llwyddo neu beidio galwch i fewn i'r siop, neu gwyliwch mas am y beic modur arian." Erthygl gan Dyfed Bowen o Landysul
|