Daeth cryn lwyddiant i Glwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni wrth i'r aelodau gipio'r safle cyntaf mewn tair cystadleuaeth. Diolch i bawb a fu'n helpu erbyn y diwrnod.
Cafwyd cryn dipyn o hwyl a sbri yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth Noson yng Nghwmni a gynhaliwyd yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ar nos Wener, 16 Chwefror 2007. Er na chawsom wobr fe gafwyd beirniadaeth dda am y perfformiad. Hoffwn ddiolch i Mr John Thomas am greu'r sgript ac ein dysgu.
Ar 28 o Chwefror yn Ysgol Gynradd Nantgaredig cymerodd Rhian Davies (Cadeirydd), Nerys Thomas (Siaradwr) ac Anwen Jones (Diolchydd) ran yn y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg Adran Iau. Daeth y t卯m yn 5ed allan o 10 a llongyfarchiadau i Rhian Davies am gipio'r wobr gyntaf fel Cadeirydd, hefyd llongyfarchiadau i Anwen Jones am ddod yn ail fel Diolchydd. Mawr yw ein diolch i Mrs Eileen Davies, Gwndwn am hyfforddi'r t卯m.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg Lefel Cymru yn Ysgol y Preseli, Crymych lle ddaeth t卯m Adran Iau Sir G芒r yn ail gyda Rhian Davies yn dod yn gyntaf fel Cadeirydd.
Ar nos Fercher 14 o Fawrth aeth Sion Evans, Nerys Thomas, Meryl Davies a Rhian Davies lawr i Canaston, Sir Benfro i gymryd rhan yn y gystadleuaeth bowlio deg, lle cawsom gryn dipyn o sbri.
|