Wrth symud y pridd gwelwyd tri chylch tywyll yn mesur 12m ar draws. Galwyd am gymorth Archeolegwyr Cambria Llandeilo i archwilio'r safle, a chafwyd mai olion Crugiau Claddu sydd yma yn dyddio n么l i'r Oes Efydd tua 2000 CC. Tua 200m o'r crugiau cafwyd tystiolaeth fod yna olion o fferm hynafol a allai fod wedi ei hadeiladu tua 5000 o flynyddoedd yn 么l. Ym marn yr archeolegwyr, y fferm yw'r darganfyddiad pwysicaf ac yn ddolen goll yn hanes y Gorllewin, ac er na ellir cynnig dyddiad pendant ar hyn o bryd, gall adeiladau'r fferm a'r lloc fynd n么l mor bell 芒 3000 CC. Maent yn dod o hyd i grochenwaith or Oes Efydd o fewn terfynau'r fferm hefyd, er fod rhai o'r adeiladau yn debyg flynyddoedd i rair es Haearn tua 2000 o flynyddoedd yn 么l. Mae'r darganfyddiad yn creu tipyn o gynnwrf yn yr ardal a gobeithio y cedwir y safle yn glir o adeiladau newydd er mwyn trysori'r olion hynafol yma i'r dyfodol, ac y bydd cyfle i bawb fynd yno i'w gweld. Gall hyn fod allweddol i ddenu rhagor o dwristiaid i'r ardal gan hybu'r economi lleol.
|