Enillodd Carys Briddon o Dre'r Dd么l, Ceredigion, y gystadleuaeth 'erthygl ar gyfer papur bro' yn Eisteddfod Llanfihangel ar Arth. Dyma'r erthygl fuddugol.
Fel yr 芒 person yn hyn, mae'n sylwi ar y pethau sydd wedi newid ers pan oedd yn blentyn. Cofiaf am y pethau yr arferid eu gwneud pan oeddwn i'n blentyn yn ystod y 1950au, ac erbyn hyn, mae nifer o'r hen arferion bron a darfod yn y gymdogaeth, a rhai yn bendant wedi darfod.
Cerdded i bob man
Credaf mai'r arferiad sydd yn bendant wedi dod i ben yw'r arfer o gerdded i bob man. Roeddwn i'n byw mewn pentref bach ddiarffordd yng ngogledd Ceredigion lle nad oedd gwasanaeth bws, felly roedd yn rhaid i ni gerdded i bob man. Er nad oedd y daith yn bell, roeddwn wrth fy modd yn cerdded i'r ysgol bob dydd a chael y cyfle i sylwi ar y wlad a'r bywyd gwyllt o'm cwmpas. Cofiaf yn dda fel y cerddai fy ffrind a minnau i'r pentref agosaf, dair milltir i ffwrdd, bob bore Sadwrn i gael gwersi piano, ac yna cerdded adref eto yn y prynhawn. Anaml y deuai car heibio a chynnig reid i ni, ond roeddem yn hapus i dderbyn reid gan unrhyw un pe caem y cynnig, hyd yn oed os nad oeddem yn adnabod y gyrrwr.
Roeddem ni'r plant wrth ein bodd yn cerdded i'r mynyddoedd am bicnic yn yr haf. Ni wyddai ein rhieni i ble y crwydrem - dim ond i ni fod yn ofalus gwyddent ein bod yn hollol saff. Gwyddem am bob math o lecynnau prydferth yn yr ardal, a chofiaf am un yn arbennig lle'r oeddem yn mynd i hel blodau'r briallu yn y gwanwyn - roedd y cwm hwnnw yn felyn gan liw'r blodau, a ninnau yn rhyfeddu at eu prydferthwch flwyddyn ar 么l blwyddyn. Yn ystod gwyliau'r Pasg, pan oedd y tywydd yn dechrau cynhesu a bywyd newydd i'w weld ar y tir, crwydro i'r wlad a dysgu am fyd natur wrth weld y gwahanol anifeiliaid, adar, coed a phlanhigion yn eu cynefin naturiol.
Sylwai'r bobol ers talwm ar arwyddion natur ac arferion anifeiliaid i gael rhagolygon y tywydd, felly gallent drefnu eu gwaith yn 么l yr hyn a welant. Rhoddai fy nhad cu goel fawr ar y gwahanol arwyddion hyn i ragweld y tywydd, gan syllu ar arwyddion y s锚r sydd o'u cwmpas, gan fod y papurau newydd, y radio a'r teledu yn darogan beth fydd y tywydd am y dyddiau nesaf. Wrth golli'r ddawn yma i sylwi ar fyd natur, collwyd un o'r hen arferion mwyaf diddorol a feddai trigolion cefn gwlad.
Wrth grwydro'r un llwybrau bob gwanwyn, gwyddem yn iawn ble i ddod o hyd i nythod adar yn y gwrychoedd a'r coed, gan ddod i wybod nythod pa adar oeddynt wrth adnabod maint a lliw'r wyau. Yn anffodus bu i sawl aderyn bach dorri' i galon wedi i rai o'r bechgyn ddwyn wy o'i nyth i'w hychwanegu at eu casgliad. Ym mis Awst roedd criw ohonom, yn blant ac yn rhieni, yn cerdded i'r goedwig i hel llus duon.
Cyrhaeddem adref y noson honno gyda digon o lus duon i wneud sawl tarten, a phob un ohonom wedi blino'n l芒n ar 么l cerdded cymaint yn ystod y dydd, a'n crwyn wedi llosgi yn yr haul. Ond drannoeth roeddem wrth ein bodd yn bwyta'r darten llus duon a fyddai mam wedi'i choginio.
Cofiaf yn dda fel yr ymunai fy ffrind a minnau gyda'r bechgyn wrth fynd i n么l 'concyrs' yn yr Hydref. Dim ond un coeden castanwydden oedd yn agos i'r pentref, a hynny tu 么l i'r plas. Dwy chwaer oedrannus oedd yn byw yno, a ninnau yn ceisio bod yn dawel rhag iddynt ein clywed yn tresmasu ar eu tir. Rwy'n si诺r pe baem yn gofyn, byddai'r ddwy ond yn rhy falch i roi'r 'concyrs' i ni, ond nid oedd 'dwyn' rhywbeth yn ychwanegu at wefr y weithred?
Fel roedd yr hydref a'r gaeaf yn agosau, byddai mam a minnau yn mynd am dro i'r coed i hel brigau ar gyfer achub t芒n y bore. Rwy'n cofio fel y byddai mam wrth ei bodd pan fyddai un cornel o'r sied yn llawn o frigau, a hithau'n gwybod felly fod ganddi ddigon o goed bach i ddal trwy'r gaeaf. Yr adeg honno nid oedd peiriant golchi ganddi, a bob bore dydd Llun byddai'n cynnau t芒n o dan y pair mawr yn y sied er mwyn berwi'r d诺r i olchi dillad. Felly roedd cerdded i'r goedwig i n么l digon o goed t芒n dros y gaeaf yn hanfodol i'n cadw'n gynnes ac i ferwi d诺r y pair.
Yn yr hydref, byddai'r ffermwyr yn cerdded y defaid i'r mart, a dyna olygfa oedd honno. Byddai sawl gyrr o ddefaid yn cerdded drwy'r pentref y bore hwnnw, pob un yn ei amser ei hun - a phawb yn gofalu cau g芒t yr ardd rhag i'r defaid grwydro a bwyta'r blodau a'r llysiau!
Canu calennig
Mae'r arferiad o fynd i ganu am galennig hefyd bron a darfod mewn llawer ardal, ond roeddem ni wrth ein bodd, gan godi'n gynnar ar ddydd Calan er mwyn mynd i ganu. Ar y diwrnod yma byddai'r bechgyn a'r merched yn mynd ar wah芒n, gan gerdded o amgylch y tai yn y pentref yn gyntaf. Wedyn roedd yn ras rhyngddynt i gyrraedd rhai o'r ffermydd yn gyntaf, gan fod rhai ffermwyr yn rhoi mwy o arian i'r rhai cyntaf a ddeuai i'r fferm i ganu am galennig. Mewn ambell i d欧 dim ond ceiniog neu ddwy a gawsem am ganu, ond rhoddai eraill dair neu chwe cheiniog inni. Gan fod y ffermydd yn y pentref mor wasgaredig, mae'n anodd credu ein bod yn eu cyrraedd i gyd cyn hanner dydd. Byddem yn anelu at gyrraedd y fferm olaf cyn hanner dydd a ninnau bron a llwgu erbyn hynny, ond gwyddem y byddem yn cael darn o gacen neu rhywbeth i'w fwyta yna bob tro. Ar 么l yr holl gerdded, roedd yn braf medru mynd i'r siop yn y prynhawn i brynu melysion gyda pheth o'r arian.
Wrth gofnodi'r teithiau cerdded penodol yna a wnaed gennyf pan yn blentyn, gwelir fod newid mawr wedi bod yng nghefn gwlad. Teimlaf nad yw plant y dyddiau yma yn medru rhannu'r pleser a gawsom ni wrth gerdded i bob man. Mewn oes pan fo plant yn cael eu cludo i bob man yn y car, ac yn eistedd i wylio'r teledu gyda'r nos, mae'n amlwg nad ydynt yn cael digon o ymarfer corff. Ni ellir dweud hynny amdanom ni hanner can mlynedd yn 么l!
Carys Briddon