Roedd Cynthia wedi bod yn gweithio yn ffatri Dewhurst, Llambed am 31 mlynedd, ac er iddi gael cynnig i symud i Aberteifi ac Abertawe gyda'r gwaith, roedd hi'n ddigon bodlon ei byd yn gweithio'n Llambed. Cam tipyn mwy oedd yr un i ogledd Affrica!"Roedd pawb yn gweud wrtha' i am fynd" meddai Cynthia, "y byddwn i'n cael profiadau gwahanol, a'i fod yn gyfle rhy dda i'w golli. Mynd amdani wnes i wedyn, a chael cwpwl o fisoedd mewn gwesty yn Tangiers i gael gweld os o'n i'n hapus, a wedyn ffeindio fflat ac arwyddo'r contract gwaith."
Treuliodd Cynthia dair mlynedd yno yn dysgu dau berson sut i reoli llawr lle roedd 450 o bobol yn gweithio ar beiriannau. Gwnaeth lu o ffrindiau ymysg y bobol oedd yn gweithio yno, ac wedi dychwelyd i Landysul erbyn hyn, mae'n gweld eu heisiau yn fawr, a gweld eisiau'r haul hefyd wrth gwrs!
"Mae gen i atgofion da iawn" meddai Cynthia, "mae'r Morocans yn bobol hyfryd, ac roedd y bobol o'n i'n eu dysgu ishe dysgu, oedd yn gwneud fy ngwaith i lot yn haws."
Saesneg fu'r iaith rhyngddynt bob dydd, ond fe wnaeth Cynthia ddysgu rhywfaint o'r iaith frodorol hefyd, sef Arabeg, ac mae hi hyd yn oed yn canfod ei hunan heddiw yn dweud Shukran (diolch) i ambell yrrwr tacsi!
Erbyn hyn, mae Cynthia wedi dychwelyd n么l i ddyffryn Teifi i fyw a gweithio yma. Mae hi wedi agor ei siop ei hun, sef 'Nodwydde a Phinnau', ar stryd fawr Llandysul ers dechrau Tachwedd, ac mae'n hapus ei byd yn cael bod yn fos ar ei hun! Derbyniodd Cynthia lawer o gyngor yngl欧n ag agor ei busnes ei hun oddi wrth ffrind da iddi, Helena Gregson, sydd hefyd 芒 siop wn茂o ei hun sef 'Pwythau' yn Llambed. Bu'n edrych arni'n gweithio ac fe wnaeth hefyd dderbyn llawer o help a chyngor am grantiau a gwneud cynllun busnes wrth 'Llygad Busnes', Antur Teifi.
Bellach, mae'r siop ar agor, a Cynthia'n hapus iawn yn gwneud newidiadau i ddillad pobol yr ardal. "Mae pawb yn wahanol" meddai Cynthia, "felly ma' digon o waith i'w gael - y rhan fwyaf o bobol ishe llacio eu dillad!" Os felly, mae'n si诺r y bydd hi'n brysur iawn ar 么l y Nadolig hwn, gyda llawer mwy o ddillad am gael eu llacio eto! I gysylltu 芒 Cynthia Davies yn 'Nodwydde a Phinnau', ffoniwch 07971684754.
Heledd ap Gwynfor
Prosiect Papurau Bro.