Roedd yr haul yn disgleirio ar fore Llun y Pas gym maes parcio T L Thomas, llanllwni pan ddaeth 24 o hen dractorau ynghyd, a phob un yn edrych ar ei orau yn lliwgar a sgleinig, yn union fel y daethant allan o'r ffatri tua hanner can mlynedd yn 么l.
Er hyn i gyd aethant are u taith. Gadael llanllwni a theithio dros y mynydd tuag at y Llidiad Nennog, aros am ychydig ar y daith i weld y golygfeydd prydferth ar fore o wanwyn.
O Llidiad Nennog am Frechfa, ac i Horeb, troi ar y chwith yn Horeb i gyfeiriad Pont Ynyswen, ac ymlaen i Felingwm.
Gadael Felingwm ganol prynhawn a'r haul yn dal i dywynnu, nol i Frechfa ar hyd ffordd arall a nol i Lanllwni.
Cael y cyfle i weld golygfeydd prydferth unwaith eto, a dod a diwrnod pleserus iawn i bawb i ben.
Daeth gyrrwyr o ardal eang iawn. Un wedi teithio i lawr o Lanrhystud. Rhai o Lanbed, Cwrtnewydd a Pumsaint.
Cael cinio blasus yn Nhafarn yr Arad, tynnu raffl, cael hwyl wrth gymdeithasu, a'r gyrrwr yn filch o'r seibiant, a'r cyfle i drafod y gwahaniaeth dractorau.
Diolch i'r rhoddwyr gwobrau, prynwyr raffl a'r noddwyr. Diolch i bawb ddaeth a'i dractor, a chael noddwyr, a chodi 拢1520 i'r Garthen.
|