Ond beth am ddathlu un o'n traddodiadau mwyaf gwerthfawr sef llenydda a rhoi tocyn llyfr yn anrheg? Gyda Diwrnod y Llyfr wedi bod ar Fawrth 4, syniad gwych yw i ni efelychu dathliadau Diwrnod y Llyfr yng Nghatalonia lle gwelir pobl yn rhoi llyfrau i'w ffrindiau a'u teuluoedd. O Wasg Gomer eleni daw llyfrau newydd i blesio darllenwyr o bob oed. I'r plant lleiaf, does dim byd yn well na chael llyfr bwrdd sy'n gwneud s诺n wrth wasgu'r botwm ar Lili'r Llygoden a Miri'r Mochyn clywir y cymeriadau bach lliwgar yn gwichian. Sbloet o liw o bob math welir yn y llyfr stori Wini'r Wrach wrth i'w hudlath orfod newid lliw'r gath yn gyson er mwyn dod o hyd iddi. Mewn oes lle mae dewiniaid yn ffefrynnau gyda phlant, fe fydd hiwmor arbennig Wini yn si诺r o apelio. Darlunydd enwog sydd wedi ennill nifer o wobrau am eu dehongliadau o chwedlau a straeon gwerin ydy Margaret Jones o Gapel Bangor, Ceredigion. Ond gwelir ei dawn am y tro cyntaf fel awdur ac arlunydd yn y gyfrol Saesneg i blant o'r enw Nat. Yn 么l Dr Robin Gwyndaf o Amgueddfa Werin Cymru "Y mae'n un o'r stor茂au gorau a ddarllenais ers tro byd... mae'n ail greu coelion, arferion a naws cyfnod y stori, yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda gofal a manylder, cyfnod pan oedd cred pobl yn y goruwchnaturiol yn parhau yn gryf... mae'r gyfrol hon yn fwy na stori am ymwneud merch ifanc synhwyrus 芒 byd hud a lledrith y Tylwyth Teg, y mae hefyd yn stori am werthoedd oesol: cariad, gwasanaeth a theyrngarwch." Y ffin rhwng byw a marw yw cyd-destun Jara, nofel afaelgar gan Gareth F. Williams ar gyfer pobl ifanc. Troediodd dros y tir arswydus hwn wrth lunio'r gyfres deledu o'r un enw ac mae'r nofel yn sicr o ysgwyd ac aflonyddu'r darllenydd." Dathlwn hanes Cymru wrth i'r bedwaredd gyfrol ar bymtheg yn y gyfres Cof Cenedl gael ei chyhoeddi. Ceir ynddi chwe ysgrif wedi eu hysgrifennu mewn dull atyniadol ar amrywiaeth o bynciau fel 'Datblygiadau Cerdd Dant yng Nghymru', 'Y Ddewines o Gymraes gyntaf i'w dienyddio' a 'Delweddu'r Gl枚wr Cymreig ar ffilm'. Nod y gyfres hon a olygir gan Geraint H. Jenkins ydy dyfnhau a grymuso ymwybyddiaeth Cymry Cymraeg o'u tras a'u hetifeddiaeth. Dathlwch ein hetifeddiaeth - ewch ati i brynu a darllen llyfrau ar Ddiwrnod y Llyfr eleni. Am fanylion pellach cysylltwch 芒 Gwasg Gomer: Meinir Garnon James 01559 362371 meinir@gomet.co.uk neu Nia Jenkins 01559 362371 nia@gomer.co.uk Diolch i Wasg Gomer am gyfranni'r llyfrau yn y gystadleuaeth.
|