Dyma lun o Rosie Pearce, dysgwraig o Bentrecwrt, a enillodd wobr am ysgrifennu erthygl mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Merched y Wawr yn Genedlaethol i ddysgwyr. Ysgrifennodd Rosie am ddilyn llwybrau Owain Glynd诺r. Mae Rosie wedi byw ym Mhentrecwrt ers 17 o flynyddoedd ac wedi bod yn dysgu'r iaith Gymraeg ers tua 7 mlynedd. Mae'n mynychu dosbarthiadau nos yng Ngholeg Ceredigion o dan hyfforddiant y Prifardd Idris Reynolds, a dywed Rosie ei bod yn ddyledus iawn iddo. Mae hefyd yn mynd i Gymdeithas y Dysgwyr yn rheolaidd, ac yn aelod ffyddlon o Gangen Geler o Ferched y Wawr lle mae erbyn hyn yn teimlo'n hollol gartrefol ac newydd ddechrau ar swydd Trysorydd y Gangen - mae ei chyd-aelodau yn teimlo'n falch iawn ohoni ac yn ei llongyfarch yn fawr. Cynhaliwyd seremoni wobrwyo Rosie yng Ng诺yl Haf flynyddol Merched y Wawr ym Machynlleth. Daeth i'r brig allan o 23 o gystadleuwyr, gyda chanmoliaeth uchel gan Lois Arnold y beirniad. Yn wobr cafodd blac a thystysgrif ac hefyd aelodaeth blwyddyn o Ferched y Wawr. Bydd yr erthygl fuddugol yn ymddangos mewn rhifyn o'r Wawr yn y dyfodol agos. Da iawn Rosie!
|