Pan ddaw mis Medi, a dechrau tymor newydd ni chlywir swn plant yn chwarae ar iard yr ysgol yn y ddau bentref yma, ond yn hytrach byddant wedi eu gwasgaru i ysgolion eraill - rhai mor bell 芒 Chaerfyrddin. Wrth golli ysgol y pentref bydd calon y gymuned yn cael ei rhwygo, a'r plant yn colli'r cyfle o berthyn a bwrw gwreiddiau yn ddwfn yn eu cymuned. Mae ein dyled yn fawr i'r rhai a fu'n ymgyrchu am lawer blwyddyn er mwyn cadw'r ysgolion ar agor. Diolch hefyd i'r athrawon hynny sydd wedi sicrhau'r addysg orau i'r plant am dros gan mlynedd yn y ddwy ysgol. Gwerthfawrogwn ymroddiad y staff presennol, gan ddymuno pob rhwyddineb iddynt yn eu meysydd newydd. Yr her nawr yw cadw'r adeiladu fel canolfannau bywiog ar gyfer y dyfodol. Cofiwch gefnogi pob ymdrech i wneud hyn. Dymuniadau gorau i'r athrawon fydd yn ymddeol - ceir gwerthfawrogiad o'u gwaith a'u gwasanaeth i Ysgol Cae'r Felin yn rhifyn Medi o'r Garthen, a hefyd hanes y dathlu a'r cofio yn y ddwy ysgol arall. Colli Ysgol Bydd colli ysgol yn ergyd drom iawn i'n cymuned ni yn Llanfihangel. Cafodd pob dadl a roesom gerbron yr Awdurdod ei gwrthod. Mae'r ysgol yn llwyddo i gyflwyno addysg dda - cystal ag unrhyw ysgol arall yn yr ardal. Mae'r plant sy'n dod i'r ysgol yn elwa o'r awyrgylch teuluol a'r sylw unigol maent yn ei gael, ac mae'r mewnfudwyr yn dysgu Cymraeg yn rhwydd. Ein dadl gryfa oedd fod awydd cryf iawn yn ein cymuned ni i gadw yr adnodd pwysig hwn ac mai cyfrifoldeb ein cynrychiolwyr yn y Cyngor sir yw gweithio gyda'r elfennau hynny yn ein cymunedau sydd am warchod a datblygu ein hasedau. Yn lle hynny, rhoi cic anferth i ni a wnaethant. Ond mae ein cymuned yn dal yma. Ein gobaith ni nawr yw defnyddio'r ysgol fel canolfan i'n cymuned. Bydd hyn yn llawer anos hen yr ysgol ddyddiol o herwydd y gost o gynnal yr adeilad. Disgwyliwn y bydd yr Awdurdod yn rhoi cymorth i ni i ddechrau, er mai yr Eglwys yw perchen yr adeilad ac nid yr Awdurdod. Gyda chymorth yr Eglwys a rhai asiantaethau eraill, a brwdfrydedd pobl y pentref, gobeithiwn allu cyflogi rhywun yn yr ardal i drefnu a chydlynu gweithgareddau yn yr ysgol. Mae'r gweithgareddau a gynhelir eisoes ar gae chwarae'r pentref yn dangos sut y mae modd tynnu pobl ein cymuned at ei gilydd i fwynhau eu hunain - a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Yr un modd, gobeithiwn y bydd pobl y pentref yn dod at ei gilydd i fwynhau ac elwa oddi wrth weithgareddau yn yr ysgol. Hefyd gobeithiwn y bydd modd trefnu gweithgareddau yno ar gyfer pobl ifanc y pentref. Y siom fawr ydyw y byddwn yn gobeithio bywiogi a chyfoethogi bywyd ein cymuned er gwaethaf ein hawdurdod lleol ac nid gyda'i gymorth. Meinir Ffransis
|