Mae'n arferiad erbyn hyn i aelodau Cymdeithas Gefeillio Llandysul a'r Fro ddod ynghyd i ddathlu G诺yl Santes Dwynwen. Eleni, ar nos Sadwrn yr wythfed ar hugain o Ionawr, cynhaliwyd y cinio traddodiadol gyda Twm Morys yn 诺r gwadd. Anrhydedd oedd bod yng nghwmni y Prifardd poblogaidd hwn sydd hefyd yn ganwr enwog gyda'r band Bob Delyn a'r Ebillion. Gan ei fod wedi byw yn Llydaw am tua deng mlynedd roedd ganddo
wybodaeth eang a dwfwn o'r wlad honno ac, wrth gwrs, mae'n feistr ar y Lydaweg ac yn ei siarad gydag arddeliad 芒 llais mawr! Drwy ei arddull stor茂ol unigryw adroddodd hanesion am Lydaw, ei phobol, ei hanes a'i thraddodiadau. Daeth Llydaw yn fyw i bawb ac, er fod bron pawb a oedd yno ar y noson wedi ymweld 芒 Llydaw fwy nag unwaith, cafwyd golwg newydd ar y wlad a'r gymdeithas. Roedd Twm yn awyddus i sicrhau ein bod ni fel Cymry yn ynganu enwau Llydaw yn 么l y dull Llydewig yn hytrach na'r un Ffrengig, a chawsom ein drilio yn y grefft! Cymharodd y gwahanol ddylanwadau a fu ar Lydaw a Chymru, a'r modd y llwyddom ni i gadw'r iaith ond, efallai golli traddodiadau eraill sydd wedi eu cadw yn Llydaw. Roedd hi'n ddiddorol ystyried, er enghraifft, pam fod Llydawyr yn rhoi pwyslais ar brynu bwyd lleol, yn enwedig bwyd m么r, ond fod y Cymry yn llugoer yn hyn o beth. Roedd y noson yn wir ddiddorol gyda chwerthin lleol iachus yn un o brif ddanteithion y fwydlen. Erthygl gan Moelwen Gwyndaf
|