Roedd y band Johnny Panic yn enwog trwy Gymru. Daethant i boblogrwydd gyda'u melod茂au hardd, geiriau pwrpasol a rhythm gwych. Ro'n nhw'n arbennig hefyd gan mai tair merch oedd rhai o'r prif aelodau - Betsan o Dalgarreg, Nia o'r Tymbl a Fflur Dafydd o Landysul. Dyma eiriau Fflur ... Do'n i ddim yn si诺r iawn sut i deimlo ynghylch gig ola'r Panics. Yn sicr, roeddwn i'n drist wrth feddwl fod y band a fu'n rhan o fy mywyd cyhyd yn dod i ben. Diwedd cyfnod - cyfnod hir a bythgofiadwy o chwerthin, chwysu, cw'mpo mas, cerydda, mynydda, cwympo drosodd, neidio, cario, herio, crio a chredu!
Cyfnod ysgol a chyfnod coleg yn toddi yn un freuddwyd fawr gerddorol. Rwy'n dal i gofio ymarfer cynta'r band (er nad oedd y gair 'band' wedi cael ei grybwyll bryd hynny) - fi, Nia a Betsan - ein dannedd ni'n borffor 'r么l yfed gwin coch, yn gwneud twrw fin nos wrth chwarae'n offerynnau yn wael iawn, iawn! - ac erioed yn breuddwydio y gallai'r weledigaeth feddwol droi'n realiti - ac y byddai'r awydd am greu cerddoriaeth yn ymgorffori fel 'Johnny Panic' - band sydd wedi newid ei lein-yp yn fwy nag y mae ambell un wedi newid ei drwsus.
Ac er gwaethaf y ddelfryd mai band i ferched yn unig fyddai'r Panics, diolch byth am y dynion amrywiol a fu'n rhan o'r band, er mwyn ein cadw ni'n tair wrth yddfau'n gilydd! Diolch yn dalpe i Denz, Colin, Trystan, Rhydian a Alex am basio trwyddo, diolch yn arbennig i Squids am fod yn 'gefen' (ys dywed cymeriadau Cwmderi) - ac i'r criw ymroddgar, parhaol - Gethin 'earplygs' Sanders, lwan 'Llangain' Evans, Rhys 'Y Barf James, a lestyn 'Kiddo' Jones.
Ac roedd 'na falchder hefyd, wrth gamu oddi ar y llwyfan am y tro olaf, yn y ffaith ein bod wedi llwyddo i ymwrthod y pwysau cynyddol sydd ar fandiau'r s卯n gyfredol i droi'n ddwyieithog. 'Doedd canu yn Saesneg erioed wedi croesi ein meddyliau ni, er gwaetha'r pwysau a ddaeth o wahanol gyfeiriadau i ni wneud er mwyn troi'n broffesiynol. Doedd Saesneg, yn syml iawn, ddim yn rhan o'n gweledigaeth ni fel band. Ac mae'n dorcalonnus gweld cyn lleied o fandiau yng Nghymru sydd yn meddwl felly bellach, a chymaint o fandiau sy'n cael eu dallu gan obeithion seithug am yrfa ddisglair dros y ffin, heb ystyried am eiliad y buddiannau sydd i ganu'n eu hiaith gyntaf a chyfrannu deunydd gwirioneddol wreiddiol at ddiwylliant leiafrifol, yn hytrach na cael eu llyncu gan Loegr.
Yn ddiweddar bu^m mewn gig Cymdeithas yr laith yn Aberystwyth. Nid yn unig y gwnaeth y band 'The Poppies' ddangos diffyg parch llwyr at y Gymdeithas trwy ganu y rhan fwyaf o'u set yn Saesneg, ond roedd gan y prif leisydd hyd yn oed y wyneb i ddweud: "I'm gonna sing a few songs in Welsh now because, um, I speak it, and well, y'know, it's a Cymdeithas yr Iaith thing... "
Does dim angen dweud mwy. A ma'r cyfan yn fy ngwneud yn fwy penderfynol byth i gamu'n 么l ar y llwyfan 'na - y Gymraeg lond fy lleferydd.
dan ofal Prosiect Papurau Bro