Oherwydd y clwy' traed a'r genau gorfwyd dileu'r adran Treialon C诺n Defaid a'r adran Defaid, ond yn eu lle cafwyd mabolgampau i'r plant ac amryw o gystadlaethau eraill yn ystod y dydd. Da o beth oedd gweld cymaint o bobl wedi dod i'n cefnogi yn ystod y dydd ac hefyd y cystadlu brwd oedd yn y tent.
Llywyddion y dydd eleni oedd Mr a Mrs Jones, Penlan y M么r, Llanarth. Braf oedd cael eu cwmni a diolch iddynt am eu rhodd haelionus. Cynhaliwyd sioe fideo am wyth yr hwyr yn nhafarn y Belle Vue ac yna ocsiwn i gloi'r noson. Cafwyd tipyn o hwyl gydag Aled Thomas, Bwlchclawdd yn gwerthu eitemau di-ri.
Gan gofio nad oedd y ffermwyr ifanc yn gwneud unrhyw elw, mae swm sylweddol o arian wedi cael ei godi at yr elusen a ddewiswyd, sef Ap锚l Arch Noa. Dymuniadau C.FF.I. Llanllwni ddiolch i'r holl noddwyr am eu cyfraniadau, y beirniaid am eu gwaith, i'r cystadleuwyr am eu cefnogaeth, y stiwardiaid ynghyd 芒 phawb arall a wnaeth helpu. Diolch i chi gyd!
Canlyniadau:
Sioe Adran Garddwriaeth: Mr Eric Jones, Dwylan, Pencader
Adran Flodau: Mrs Janet Jones, Dwylan, Pencader
Adran Goginio: Mrs Marian Jones, Highview
Adran Cyffeithiau a Gw卯n: Mr a Mrs Eric Jones, Dwylan, Pencader
Adran Gwartheg Godro: Mr a Mrs Howells, Gwarallt
Adran Gwartheg Eidion: Mr a Mrs Morgan, Glwydwern
Pencampwyr Gwartheg: Mr Huw Charles, Aberglwydeth
Adran Cynnyrch Fferm: Mrs Catrin George, Tirlan
Adran Plant Dan 7: Iestyn Harries, Maesnonni
Adran Plant 7-11: Aled Jones, Blaenblodau
|