Daeth 48 o bobl Plogoneg, sef y pentref sydd wedi gefeillio a Llandysul a'r fro, i Landysul am dridiau ym mis Mai, ac aros gyda theuluoedd, fel arfer, yn y pentref a'r fro, sydd yn cynnwys tua 14 o ardaloedd.
Mae'r gefeillio wedi bod yn llwyddiannus iawn ers ugain mlynedd.
Roedd rhaglen lawn a diddorol iddynt, gan ddechrau gyda'r ymweliad i wersyll y carcharorion Eidalwyr yn Henllan.
Bu Jon Meirion Jones o Langrannog, yn dweud wrthynt yr hanes am y gwersyll a'r capel. Gwelwyd y ffilm "La Casa Di Dio" gan Owain L1yr, yn neuadd y Ddraig Goch Drefach Felindre, ar 么1 ymweld a'r Amgueddfa Wlan yn y pentref.
Ar ddiwrnod arall, aeth tua 50 ar daith mewn cwch am awr o Gei Newydd, ac wedyn ymweld a Ysgol Gynradd Gymunedol Bro Sion Cwilt.
Cafwyd adloniant gan blant yr ysgol, a bu Elin Jones A.C. a gweinidog amaethyddol dros Gymru, yn son am ei gwaith ac am hanes pysgota yng Ngheredigion, cyn iddynt gael cinio blasus iawn yn yr ysgol.
Yn y prynhawn, ymlaen i Wersyll yr Urdd Llangrannog, a gweld y deial haul, rhodd o Blogoneg 2008, sydd ar y wal yng nghanolfan treftadaeth ger y gwersyll.
I ddiweddu'r diwrnod cafwyd bwffe a thwmpath dawns yn Neuadd Tysul, yng nghwmni grip "Randwm", - a rhai Eidalwyr a Phwyliaid o'r ardal.
Roedd pawb yn cymdeithasu, cael hwyl ac hel atgofion, a braf gweld teuluoedd newydd yn dod draw gyda'r hen ffrindiau, erbyn hyn.
Ar 么l cinio Dydd Sul, roedd rhaid ffarwelio ynghanol y dagrau, a chanu ein hanthem genedlaethol, sydd yr un don ag anthem y Llydawyr, cyn iddynt deithio i Plymouth.
Diolch yn gynnes iawn i'r lletywyr, am roi croeso a llety unwaith eto i'r Llydawyr.
Fe fydd yr ymweliad nesaf i Lydaw yn 2011.
Am ragor o fanylion, cysylltwch a'r ysgrifennydd Nest James neu a'r drysoryddes Eileen Curry neu a'r Llywydd Wenna Bevan-Jones.