"Pan ofynwyd i mi gyfrannu erthygl ir Garthen, fy ymateb cyntaf oedd "Be' goblyn dwi'n mynd i sgrifennu amdano?" ond yn fuan iawn, daeth digwyddiad trist ar ein traws fel teulu a barodd i mi fyfyrio.
Bu farw cefnither i Micil, fy ngwr, a chyfaill i mi, yn drist iawn o gancr. Wrth gwrs, roeddem wedi ei gwylio bron iawn fel petai'n diflanu o flaen ein llygaid ers rhai misoedd, ond fel ym mhob achos tebyg, roedd y diwedd mor derfynol - yn enwedig i'w g诺r, ei dau fab a'i merch 14 oed.
Mae'n debyg fod angladdau Gwyddelig yn ddiarhebol ond efallai bod cryn camddealltwriaeth yn perthyn iddyn nhw hefyd. Y peth cyntaf sy'n nodweddiadol yw fod y gymuned i gyd yn casglu at ei gilydd mewn cefnogaeth a chydymdeimlad gyda theulu'r ymadawedig, yn blant ac yn oedolion. Dwi'n cofio pan gollais innau fy nwy ferch, fe wnaeth Emyr Hywel drefnu llond bws o blant eu hardal i ddod at yr angladd gan ei fod yn teimlo ei fod yn bwysig i blant fod yn rhan o'r broses o dderbyn y terfyn a mynegi eu galar. Ar y pryd, roedd hyn yn anarferol iawn ond credaf innau ei fod yn holl bwysig, yn enwedig o weld y drefn yma.
Roeddwn i, fel llawer Cymro neu Gymraes dicien i, heb weld corff erioed nes i mi golli fy mhlant fy hun. Yma, mae'r 'toradh' neu'r 'wake' yn achlysur teuluol, pan mae pawb oedd yn adnabod yr ymadawedig yn dod i'r t欧 (neu, yn aml y dyddiau hyn, y 'dedws' fel yr adnabyddir!) i ffarwelio 芒 gweddillion bydol y marw. Mae'r arch yn agored a'r corff wedi ei wisgo yn ei ddillad ei hun - yn aml yn dal ei hen gap, ei ffon neu rhywbeth bach arall sy'n nodweddiadol ohono yn ei ddwylo (yn ogystal 芒'i laswyr, wrth gwrs). Mae'r olygfa yn un hollol naturiol a'r awyrgylch yn un o dristwch ond hefyd o gariad ac agosatrwydd, 芒 phawb yn mynd yn gyntaf at yr arch i roi gweddi bach dros yr ymadawedig yn ogystal efallai, 芒 chyffyrddiad neu gusan cyn mynd at aelodau'r teulu i'w cofleidio neu ysgwyd llaw a chynnig cydymdeimlad. Does dim agwedd o 'ych a fi' nac o anfodlonrwydd ac mae plant bach yn tyfu i fyny gyda'r agwedd bod marwolaeth yn rhan hollol anatod a naturiol o fywyd.
Yn ystod ail ddiwrnod yr angladd, mae pawb yn ymgynnull unwaith eto i hebrwng yr arch i'r eglwys. Cyn hynny, mae'r arch yn cael ei gau ym mhresenoldeb y teulu, gyda'r gweddill o'r hebryngwyr yn aros y tu allan. Cynhelir gwasanaeth derbyn yn yr eglwys a gadewir y corff yno hyd y bore.
Y claddu yw'r trydydd cam a'r anoddaf ac, eto, mae eu cymdogion i gyd yno i'w cefnogi. Does dim amheuaeth fod y gefnogaeth hon yn rhoi cysur a nerth i'r teulu.
Tipyn o farathon, medde chi. Ie, ond er y newidiadau mawr sydd wedi dod i ran yn y wlad yma, llawer ohonyn nhw er y gwaetha' yn fy marn i, dyma un draddodiad sydd yn dal. Dyma un achlysur pan mae'r bobol gyffredin yn rhoi lles y teulu mewn galar o flaen eu cyfleustra'u hunain a da o beth ydyw."