Diwedd tymor 2006
Bu'r plant yn rhedeg trawsgwlad yn Ysgol Dyffryn Teifi yn y bore wedi'i drefnu gan ddisgyblion blynyddoedd 12 a 13. Ar nos Fawrth bu'r plant yn gwneud addurniadau Nadolig allan o nwyddau ail gylchu lle y byddant yn mynd 芒 hwynt i'r ardd fotaneg i addurno coeden Nadolig. Ar ddydd Iau bu'r plant yn gweithio ar eu prosiect menter a busnes yn gwneud pethau i werthu ar y stondin yn Llandysul yn y ffair Nadolig, fe fydd y stondin yn cynnwys cardiau calendrau a chacennau. Bydd gwasanaeth Cristnogol ar nos Fawrth 12fed yn eglwys Hellan.
Daeth Nicola Davies draw i ysgrifennu barddoniaeth a phenillion gyda'r dosbarth hyn. Bu aelodau'r Urdd ar nos Fercher yn gwneud crochenwaith gyda mr Robert Blayney a chael hwyl a diolch i'r rhieni am eu help parod. Dydd Iau cafwyd bore hyfryd ar fferm y cwrt yn gweld Mrs Enfys Wyse yn pobi ac yna i orffen y dydd mewn steil, cafwyd taith gerdded noddedig a mwynhau picnic ar lan yr afaon yn Henllan.
Cwis Llyfrau- Llongyfarchiadau i'r ddau gwis llyfrau a wnaeth mor dda - y ddau d卯m yn cael mynd drwyddo. Y ddau dim oedd Ryan, Ffion Haf, Alice James a Ffion Rees, Tristan, Tomos Knight a Ceinwen. Pob lwc yn y rownd nesaf.
Aeth plant derbyn bl 4 lawr i gartref Henllan i droi'r golau Nadolig ymlaen ac i ganu i'r trigolion, cafwyd brynhawn hwylus dros ben yng nghwmni'r trigolion ynghyd 芒 chael bwyd blasus i orffen.
Cariwyd ymlaen gyda gwneud addurniadau Nadolig ar gyfer addurno'r goeden yn yr ardd Fotaneg.
Bu'r plant yn gwerthu cacennau yn y Ffair Nadolig gan wneud 拢80
Llongyfarchiadau i Hawys Hatley ar ei llwyddiant yn y maes nofio gan ddod yn gyntaf a 3ydd yng ngala nofio'r Urdd. Llongyfarchiadau iddi hefyd yn y maes Karate. Dymunwn wellhad buan iddi yn dilyn ei arhosiad yn yr ysbyty.
Ysgol Feithrin Cofiwch bod yr ysgol ar agor bob bore gan ddymuno'n dda i Miss Karen fel arweinyddes newydd y Cylch. Cadwch lygad mas am y catalog siocledi sydd yn mynd o amgylch - anrhegion da ar gyfer y Nadolig wrth i chi helpu'r Ysgol Feithrin.
|