Os ewch chi am dro ar hyd y traeth dros y gaeaf, maen bosib y gwelwch chi rai pethau annisgwyl yn y traethlin o wymon a chregyn a olchir i'r lan gan y llanw. Efallai y gwelwch chi greaduriaid wedi marw neu hyd yn oed olion olew a phethau tebyg. Ond dim ond natur wrth ei waith sydd yma.
Meddai Gabrielle Wyn, sy'n arbenigo mewn bioleg rhynglanwol i'r Cyngor Cefn Gwlad: "Mae pob math o bethau'n cael eu cludo i'r lan gan y llanw yn sgil y tywydd oer a stormus a geir yr adeg hon o'r flwyddyn. Yn Niwbwrch ar Ynys M么n, er enghraifft, mae dau hen longddrylliad yn gorwedd yn nyfn ar wely'r m么r - glo yn un, a margar卯n yn y llall. Fel arfer 'does neb yn cofio amdanyn nhw. Ond weithiau, yn nhywydd garw'r gaeaf, fe welwch chi ddarnau m芒n o lo wedi'u golchi i'r traeth neu hyd yn oed lympiau o fargar卯n!
"Falle bod rhai pobl yn cofio gaeaf oer eithriadol 1962/3, pan gafodd y tywydd effaith andwyol iawn ar fywyd gwyllt y glannau - cafodd poblogaethau o wystrys a chregyn bylchog, er enghraifft, eu difrodi'n ddifrifol mewn rhai ardaloedd o Gymru.
"Mewn gaeafau oer iawn, mae llawer o anifeiliaid yn cael eu lladd a'u golchi i'r lan - gan gynnwys draenogod m么r, cyllyll m么r, cregyn gleision a chocos. Mae'r oerfel yn eu lladd pan fo'r llanw allan. Mae'n ddigwyddiad cwbl naturiol, ond gan fod pobl yn gweld creaduriaid marw ochr yn ochr ag olion olew, mae tueddiad i feddwl fod llygredd wrth wraidd y peth. Ond garwder y gaeaf sydd i'w feio."
Mae traethlinau - lle mae'r llanw'n gadael unrhywbeth mae'n ei gario i'r lan, yn enwedig mewn tywydd garw - yn llawer mwy na llinellau o sbwriel ar y traeth. Maen nhw'n nodweddion naturiol pwysig. Mae traethlinau'n llawn o wymon a chregyn marw, sy'n denu pryfetach o bob math, ac felly'n ffynhonnell fwyd bwysig ar gyfer adar yn y gaeaf.
Mae traethlinau hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd mae twyni tywod yn cael eu ffurfio, drwy dynnu'r tywod ynghyd nes bod planhigion fel hegydd y forlan yn gallu tyfu yno. Mae'r planhigion yma, yn eu tro, yn dal mwy o dywod nes fod planhigion twyni, fel moresg, yn gallu sefydlu yno. Heb yr ysgogiad dechreuol yma, byddai'r broses o greu twyni tywod yn cael ei chyfyngu'n ddifrifol, gan arwain at golli cynefin pwysig i fywyd gwyllt a gwanhau swyddogaeth twyni i amddiffyn rhag y m么r.
Mae mwy o wybodaeth yn llyfryn y Cyngor Cefn Gwlad 'Gwarchod Traethlinau' - mae hwn ar gael am ddim drwy ffonio 0845 1306229.
Dyma stori gan y Cyngor Cefn Gwlad ym mhapur bro Y Garthen i gefnogi'r ymgyrch Sea Britain 2005 - g诺yl o ddigwyddiadau drwy gydol 2005 i dynnu sylw at bob agwedd o'n treftadaeth morol cyfoethog. Bydd yr 诺yl yn ein hannog i edrych o'r newydd ar y m么r' - cewch fwy o wybodaeth ar y wefan (Saesneg)