Bu dathlu mawr yng Nghartre'r henoed Blaendyffryn Dydd Gwener, Hydref 30ain pan oedd Mrs M. M. Jones gynt o Fryncynon, Capel Cynon yn 100 oed.
Yn enedigol o Gwm d芒r daeth MM i fyw yn yr ardal yn 1946 ar 么l iddi briodi Dewi (Dewi Llwynteg).
Roedd y ddau yn adnabyddus iawn ym myd y gwennyr a'r m锚l ag wedi teithio led led Cymru a thuhwnt o sioe i sioe.
Teilwres oedd MM yn 么l ei galwedigaeth ac roedd yn medru gwneud rhyfeddodau gyda nedwydd ac edau.
Roedd gwneud nwyddau allan o gwyr hefyd yn un o ddiddordebau MM.
Ymhell cyn i ni glywed s么n am y rhaglen deledu ar ddawnsio, roedd dawnsio `ballroom' yn boblogaidd iawn yr yr ardal pan fyddai Dewi ac MM yn rhoi gwersi dawnsio i'r bobl leol yn Neuadd Maesymeillion.
Nes iddi golli ei hiechyd ym 1996 roedd yn aelod gweithgar o'r Lleng Brydeinig a Merched y Wawr ac yn ffyddlon iawn at yr achos yng Ngharmel, Prengwyn. Dathlodd MM gyda'i theulu a ffrindiau, ond roedd un gwestai arbennig, sef Mrs Edith Bound chwaer MM o Aberdar a oedd yn dathlu ei phen-blwydd hithau yn 90 oed ar yr un dydd.
Ar ran MM mae'r teulu am ddiolch i bawb a wnaeth alw mewn neu ddanfon cyfarchion iddi ar ei phen-blwydd.
|