Daeth ein cyfeillion o'n gefeilldref, Plogoneg, draw i aros eleni eto 芒 gwahanol deuluoedd yn Llandysul a thu hwnt. Roedd y croeso gan y trigolion Cymreig yn cael ei adlewyrchu'n wych yn y tywydd braf gafwyd dros y penwythnos hwnnw.
Ynghyd 芒 phobol dyffryn Teifi a Phlogoneg, roedd gennym y pleser o gwmni g诺r yr holl ffordd o Eifionnydd - y Prifardd Twm Morys. Y mae Twm yn rhugl ei Lydaweg (a Ffrangeg), ac wedi iddo annerch criw yn y Porth ddim mor bell yn 么l am Lydaw, mynegodd ei ddymuniad i ddychwelyd i Landysul i ymuno yn yr hwyl yng nghwmni'r Llydawyr. Yn wahanol iawn i'r blynyddoedd cynt, eisteddfod oedd ar yr agenda ar y dydd Sadwrn. Eisteddfod tra gwahanol i'r arfer oedd hi hefyd! Cafwyd cystadlaethau yn amrywio o ganu ac adrodd i goginio a pharatoi blodau! Er mwyn ychwanegu at ddiddanwch y dydd, ac inni y Cymry ddod i fwy o ddealltwriaeth o'n perthnasau Celtaidd, ac fel arall rownd, roedd ein cantorion ni i ganu caneuon Llydaweg yn eu hiaith hwy, a'r Llydawyr yn canu'n Gymraeg - roedd hi'n steddfod ben 'i waered! Twm fu'n garedig yn arwain y steddfod yn y ddwy iaith, a phawb yn cyfrannu at gynnig marciau mas o 10 - i fod!
Parhawyd 芒'r mwynhau gyda noson o fwyta, dawnsio a chanu yn neuadd y pentref yng nghwmni'r band gwerin 'Jac y Do' - roedd y plant yn amlwg wrth eu boddau a'r plant Llydaweg a Chymraeg yn profi nad oes rhaid wrth ddealltwrieth ieithyddol er mwyn rhannu yn yr hwyl.
|