Llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion a'r athrawon fu'n gweithio'n ddiflino er mwyn sicrhau ei lwyddiant."Mae bod yn rhan o ysgol uwchradd sy'n ychwanegu gwerth cerddorol, diwyllianol a theatrig i brofiadau addysgiadol ac academaidd traddodiadol disgyblion, yn hynod bwysig i mi fel pennaeth" meddai Dorian Williams, Pennaeth Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi.
"Bu gwylio pob un o'r pum perfformiad yn foddhad pur a bydd atgofion am y bwrlwm a'r brwdfrydedd ymhlith aelodau'r cast, y corau a'r staff a oedd ynghlwm 芒'r cynhyrchiad yn aros gyda mi. Mae doniau pobol ifanc Ysgol Dyffryn Teifi yn haeddu llwyfan - edrychwn ymlaen at hwyl a bwrlwm ein perfformiad ysgol nesaf"!
Branwen - y stori yn fyr!
Mae stori Branwen yn dilyn hynt a helynt dau deulu pendefig, sef teulu Bendigeidfran, cawr oedd yn frenin ar Ynys y Cedryn (Prydain) a Matholwch, Brenin Iwerddon.
Fe syrthiodd Matholwch mewn cariad 芒 Branwen, chwaer Bendigeidfran a'i phriodi, yn y gobaith o gael heddwch rhwng y ddwy wlad. Ond doedd pawb ddim yn hapus 芒 hyn, ac er mwyn dangos anfodlonrwydd fe wnaeth Efnisien, sef hanner brawd Branwen a Bendigeidfran, ymosod ar geffylau'r Gwyddelod.
Symudodd Branwen i fyw yn Iwerddon gan roi genedigaeth i'w mab Gwern yno, ond oherwydd ei bod hi'n wraig estron ac oherwydd y sarhad a ddygodd Efnisien ar bobl y wlad, fe wnaeth y Gwyddelod ei thaflu i'r gegin fel caethferch. Yn ei thristwch, fe wnaeth Branwen anfon neges gyda drudwy fach at Bendigeidfran, ac wedi derbyn y neges fe ddaeth ef a'i filwyr i'r Iwerddon i'w hachub.
Fe wnaethon nhw wynebu sawl anhawster ar y ffordd - er mwyn croesi afon ddofn, fe wnaeth Bendigeidfran orwedd ar draws y glannau gan adael i'r milwyr gerdded drosto - 'A fo ben, bid bont'. Wedi cyraedd, fe wnaethon nhw geisio cymodi dros swper, ond yn ystod y noson honno, fe wnaeth Efnisien daflu Gwern yn ei gynddaredd i'r t芒n.
Cafwyd ymladd ffyrnig rhwng y ddwy ochr, a thaflwyd gyrff y Gwyddelod i mewn i bair dadeni - crochan ble y daw cyrff marw yn 么l yn fyw, ond yn fud. Taflwyd Bendigeidfran i'r pair a thrwy ymestyn ei gorff, llwyddodd i'w dorri, gan ennill y frwydr ond gan ladd ei hun yn yr un modd. Lladdwyd pawb ond Branwen a saith Cymro arall yn y gyflafan. Fe wnaethon nhw dorri pen Bendigeidfran i ffwrdd a'i gladdu yn Llundain.
Oeddech chi yno? Beth yw eich barn am y perfformiad? Dwedwch wrthon ni yn y ffurflen isod.