Cymerodd Llywleyn ap Gruffydd y teitl 'Tywysog Cymru' yn 1258. Digon tymhestlog fu ei hanes ac yn 1278 priododd Eleanor de Monfort, nith Harri III, yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.
Ganwyd merch fach, Gwenllian, iddynt ym Mehefin 1282 a bu Eleanor farw ar enedigaeth y plentyn bach. Cafodd Llywelyn ei hun ei ladd yng Nghilmeri yn Rhagfyr 1282. Wedi marwolaeth ei thad danfonwyd Gwenllian yn ddau fis ar bymtheg oed, i briordy yn Sempringham. Treuliodd ei hoes yn lleian yno a bu farw yn 56 mlwydd oed. Y Brenin Edward I oedd yn gyfrifol am ei charcharu yno i sicrhau diddymu llinach Tywysogion Cymru.
Cafodd rhai ohonom gyfle i ymuno 芒 gwibdaith o ardal San Cl锚r i Sempringham, ddiwedd mis Hydref 2005. Ar fore braf ymunom 芒'r bws ar yr M4 yng Ngorllewin Caerdydd. Bu egwyl fyr i gael cinio yn Rhydychen a mwynhau ychydig o awyrgylch y dref. Yna cyrraedd gwesty Peterborough a threulio dwy noson yno.
Bore trannoeth gadawsom y gwesty yn fore ac ar 么l taith o awr, cyrraedd Sempringham ym mherfeddion Swydd Lincoln.
Ym 1996 sefydlwyd Cymdeithas y Dywysoges Gwenllain ac yn 2001 codwyd cofeb o Wenithfaen Gwynedd ger hen Abaty Sempringham. Cawsom goreso mawr gan aelodau'r eglwys a chynhaliwyd gwasanaeth wrth y gofeb ac yn yr eglwys.
Roedd pryd o fwyd wedi ei drefnu ar ein cyfer mewn tafarn ym mhentref cyfagos Pointon. Yn y prynhawn cawsom gyfle i ymweld ag Eglwys Gadeiriol hardd Peterborough. Drannoeth ar 么l taith gofiadwy, dychwelasom adref.
|