Mewn cyfnod pan y mae cymaint o ddadlau ynghylch hela 芒 chwn buom yn gwrando ar stori Melangell, y ferch addfwyn o'r chweched ganrif a guddiodd ysgyfarnog dan ei gwisg er mwyn ei arbed rhag cwn hela Tywysog Powys.
O ganlyniad rhoddwyd iddi'r tiroedd lle mae eglwys hardd Pennant Melangell yn sefyll heddiw. Sefydlwyd cymuned o leianod yno, mewn llecyn godidog ac mae rhyw awyrgylch gyfrin yn perthyn i'r safle o hyd.
Cofio am Si么n Mawddwy
Yna, wrth glywed am yr ysgyfarnog sydd yn rhan ganolog o'r stori honno, cofiais fod Si么n Mawddwy yn yr unfed ganrif ar bymtheg wedi canu cywydd i ofyn am farch dros ryw Rhys ab Einion.
A gan fod y meddwl yn neidio o un peth i'r llall, cofiais hefyd am gysylltiadau'r bardd hwn 芒 Morgannwg.
Roedd lolo Morganwg am i ni gredu mai ym Margam y cafodd Si么n ei eni, a'i fod yn fab i wr o'r enw Huw Goch o Fowddwy, neu'r Tincer Coch o Fowddwy.
Roedd ei fam, merch o'r P卯l meddai, yn gyfnither i Rhisiart lorwerth, y bardd o Langynwyd, ac ef a ddysgodd Si么n sut i farddoni.
Ond er nad yw'r stori yma yn debyg o fod yn wir roedd lolo, yn 么l ei arfer, wedi deall mai gwr lled bwysig yn hanes llenyddol Morgannwg oedd Si么n.
Bardd o Fawddwy yn canu tua 1575-1613 oedd Si么n a bu'n clodfori uchelwyr ledled Cymru.
Mae'n amlwg iddo deithio tipyn ym Morgannwg. Canodd gywydd i yrru'r haul yn gennad drosto i Forgannwg a bu'n ymryson 芒 nifer o'r beirdd lleol megis Meurig Dafydd o Lanisien, Dafydd Benwyn, un o feirdd mwyaf toreithiog Morgannwg ac o bosib o Langeinwyr, ac 芒 Llywelyn Sion o Langewydd, y bardd a'r cop茂wr llawysgrifau.
Mae tair awdl ac wyth cywydd wedi eu cadw o waith Sion Mawddwy sy'n cyfeirio at bobol o Forgannwg.
Diddorol i ddarllenwyr Yr Hogwr yw gwrthrychau'r cerddi hyn: Syr Tomos Mansel o Fargam, Tomos ap Rhisiart o Fron-y-Pil (sef Brombil, Margam), Ieuan ap Siancyn o'r Gadlys, Llangynwyd (canodd englynion i anfon y fronfraith yn gennad ato), a Hopcyn ap Tomos o Gelli'r-fid, Llandyfodog sef Glyn Ogwr.
Canu awdl i William Morgan
Canodd Si么n awdl i'r Esgob William Morgan yn y cyfnod y bu yn Eglwys Gadeiriol Llandaf (1595-1601). Ynddi, wrth gwrs, mae'n cyfeirio at ei gyfieithiad o'r Beibl.
Ond hefyd canodd gywydd anarferol iawn yn gofyn am gapel o esmwythder gan yr Esgob dros Siors Wiliam o Flaenbaglan a oedd am godi capel felly ar ei yst芒d yn lle gorfod mynd yr holl ffordd i Eglwys y Plwyf yng Nglyncorrwg.
Mae'n siwr fod yr Esgob yn cael ceisiadau felly o dro i dro, ond go brin eu bod ar ffurf cywydd yn aml iawn.
Wrth ei foli, cyfeiria ato fel 'Apostol praff' ac 'Angel cryf efengyl Crist' ac mae'n ddiddorol sylwi iddo awgrymu petai'n rhoi'r rhodd hwn y byddai Esgobaeth Caergaint yn dod i'w ran!
Rhyfedd fy mod yn cael fy atgoffa am hyn ar 么l crwydro i Llanrhaedr-ym-Mochnant gan ddilyn hanes yr Esgob William Morgan, a ninnau'n llawenhau fod yr Archesgob Rowan Williams wedi'i ddyrchafu i swydd Archesgob Caergaint yn ddiweddar.
Bu William Morgan yn berson ym Mhennant Melangell o 1588-95, cyn cael ei wneud yn Esgob Llandaf.
Diolch am Feibl William Morgan
Dylid nodi hefyd fod Thomas Jones, dyn yr oedd lolo Morgannwg yn cyfeirio ato fel Offeiriaid Llandeilo Bertholau yng Ngwent, wedi canu cerdd rydd i ddiolch am Feibl William Morgan.
Dyma un o'r penillion:
Llyma'r gem sydd wrtho'i hun,
Gwyn fyd y dyn ai pryno,
Llyma'r tlws y goreu o gant
A ddaw i feddiant Cymro,
Llyma'r cleddyf mawr ei fri
Mae Crist yn erchi 'i geisio,
Er mwyn prynu hwn rhag trais
Dos, gwerth dy bais, y Cymro.
Erthygl gan Eirian E Edwards