Darostyngwyd y gwrthryfelwyr yn gyflym ac yn greulon gan lofruddio 20,000 o bobol Hwngari.
Ers diwedd goruchafiaeth y Rwsiaid maen nhw'n dathlu'r achlysur gyda balchder.
Eleni ymunodd C么r Bro Ogwr 芒 Cherddorfa Symffoni Pest mewn dwy gyngerdd i ddathlu.
Braint mawr i'r c么r Meddai arweinydd C么r Bro Ogwr, Alun John: "Mae'n fraint fawr i'r c么r. Roedden ni wedi trefnu i ymweld 芒 Hwngari i berfformio cyngherddau amrywiol pan ofynnodd ein lletywyr i ni berfformio gwaith ychwanegol. "Cytunwyd i berfformio Elias gan Mendelssohn yn Academi Gerdd Franz Liszt ym Mwdapest ar Hydref 23ain, sef Gwyl Genedlaethol Hwngari ac yn Neuadd Bella Barttok yn Debrecen y noson ganlynol."
Dywedodd Sir Geoffrey Inkin, conswl anrhydeddus Hwngari yng Nghaerdydd: "Mae ymweliad C么r Bro Ogwr 芒 Bwdapest yn enghraifft ragorol o orwelion eang diwylliant Cymraeg. Bydd y c么r, gyda'i draddodiad cerddorol yn siwr o groeso cynnes iawn.
Perfformio gwaith Schubert Yn ystod ei ymweliad hefyd perfformiodd C么r Bro Ogwr Mass yn G gan Schubert yn Eglwys Matyas a chyngerdd o weithiau amrywiol yn Eglwys Gadeiriol dinas Eger.
Fe deithiodd 140 o aelodau'r c么r i Hwngari. Arweinydd y c么r a'r gerddorfa oedd Alun John a'r unawdwyr oedd Iona Jones (soprano); Elisabeth Johanssen (contralto); Richard Allen (tenor) ac Adam Green (产芒蝉-贰濒颈补蝉).
Erthygl gan Liz James
|