成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Hogwr
Teipio Dylanwadau
Mawrth 2005
Erthygl am Ddylanwadau gan Heulwen Thomas, enillydd Coron Hwyl yr Hogwr 2005.
Heddiw ro'n i, yngh欧d ag o leiaf 500 arall wedi mynd i Faes y Sioe yn Llanelwedd am ddiwrnod o ddathlu gyda Chymorth Cristnogol a Cytun.

Roedd yn ddiwrnod o weithdai a seminarau i'n herio a'n hysbrydoli. Ar y funud olaf newidiwyd lleoliad y seminar gyntaf y dewisais fynd iddi gan fod ambell un yn methu ymdopi 芒 grisiau. A dyna sut y bu i mi eistedd mewn stafell hirgul yn adeilad Undeb Amaethwyr Cymru (yr F.U.W. ar lafar gwlad!) yn wynebu rhes o luniau du a gwyn.

Roedd y seminar, o dan arweiniad y Parchedig Aled Edwards, yn trafod y problemau enbydus a wynebir gan y rhai sy'n ceisio lloches yng Nghymru, ond er mor fyrlymus a dirdynnol oedd ei neges roedd yn anodd i mi ganolbwyntio, achos, yr ail lun yn y rhes ar y wal, bron gyferbyn 芒 mi, oedd llun fy athro ysgol Sul pan o'n i yn fy arddegau. Bu farw ddechrau'r 60au yn ddyn ifanc 54 oed.

Roedd gweld y wyneb cryf yn llun mor annisgwyl ond eto i'w groesawu achos rwy'n dal i drysori y pen Parker coch roiodd e'n anrheg i fi pan es i i'r coleg. Roedd D.T. Lewis, neu Defi Tom Llwynwermwd fel y galwai fy rhieni e, yn un o'r dwsin dewr o ffermwyr o Sir Gaerfyrddin a sefydlodd Undeb Amaethwyr Cymru yn Rhagfyr 1955. (Fel Cymorth Cristnogol, maen nhw hefyd yn dathlu eleni.) O'r dwsin yma roedd saith yn adnabyddus i mi fel plentyn.

Cyn hyn roedden nhw'n aelodau ffyddlon o'r NFU yn cael eu rheoli o Lundain ond yn ystod gaeaf caled 1953/4 roedd ffermwyr Cymru wedi dioddef llawer ac roedd cangen Meirionnydd o'r NFU wedi ceisio galw cynhadledd genedlaethol yng Nghymru i drafod eu problemau ond dywedodd arweinwyr yr NFU eu bod yn rhy brysur i ddod i'r cyfarfod. Roedd y Llywydd newydd ddod n么l o Rwsia a'r Is-卢lywydd wedi bod i Seland Newydd. Yn wir, yn ystod y ddwy flynedd flaenorol roedd y ddau ddyn yma wedi ymweld 芒 40 o wledydd tramor ond doedd dim amser i ymweld 芒 Chymru. Pa ryfedd i'r deuddeg yma fynd ati ymysg llawer o wrthwynebiad a drwgdeimlad i sefydlu undeb a fyddai'n cynrychioli buddiannau ffermydd teuluol Cymru yn hytrach na ffermwyr mawr gwastadeddau Lloegr.

Roedd D.T. Lewis yn gymeriad cryf a thawel a dyma ddywedodd yr Arglwydd Geraint Howells amdano. "Dw i erioed wedi gweld unrhyw un yn datblygu gymaint mewn bywyd cyhoeddus ag y gwnaeth e. Fe flodeuodd." Fe oedd Is-lywydd cynta'r Undeb ac wedyn yn llywydd rhwng 1958-61 (cyn rhoi'r gorau oherwydd afiechyd) a dyna pam mae ei lun ar y wal yn Llanelwedd.

Roedd y swyddi hyn yn golygu ei fod yn teithio Cymru benbaladr i annerch cyfarfodydd a chymell aelodau newydd ond am 2 o'r gloch ar brynhawn Sul roedd e yn Seion yn ein hyfforddi ni'r ieuenctid yn y pethau gorau. Ro'n i wrth fy modd yn gwrando arno ac yn synhwyro mai ei bleser mwya' oedd ein gweld ni yn datblygu i fod yn oedolion cyfrifol.

Tua'r un adeg mewn pentre cyfagos roedd Gwynfor Evans yn dysgu dosbarth o bobl ifanc bob prynhawn Sul er ei fod ef hefyd ar grwydr drwy Gymru yn ystod yr wythnos yn annerch a chefnogi a chymell.

Ddwy flynedd yn 么l pan oedd s么n fod rhywun wedi gweld cath fawr ddu (panther!) yn agos at y ffordd fawr rhwng y ddau gapel yma disgrifiodd y "Western Mail" yr ardal yma fel "this remote area of North Carmarthenshire" (h.y. heb fod o fewn 20 milltir i M&S a Tesco!) Gymaint yn fwy "remote" oedd hi yn y 50au ond falle taw dyna oedd ein lwc ni'r ieuenctid ar y pryd fod y gymdeithas lleol yn fwy o ddylanwad arnon ni na dim arall.

Yn gymharol ddiweddar clywais rywun ar raglen radio yn defnyddio dywediad oedd yn newydd i mi "You need a village to bring up a child". Dyna oedd ein profiad ni. Un o lawer oedd D.T. Lewis - yr un a ddaeth yn adnabyddus y tu hwnt i'w bentref genedigol. Gallwn hefyd s么n am bobl fel Miss Richards a Mrs Davies - un yn ddibriod a'r llall yn weddw ers yn ifanc ac yn byw gyferbyn 芒'i gilydd ganllath o `nghartref i. Roedd y ddwy yn cydweithio yng nghegin ysgol y pentref ac er bod eu diwrnod gwaith yn gorffen yn gynt na diwrnod ysgol roedd y ddwy yna ar ddiwedd y prynhawn i gyd gerdded y filltir adre gyda rhyw hanner dwsin ohonon ni. Ro'n nhw ar eu ffordd i dai gwag ac yn mwynhau cwmni ifanc ond fe ddysgon ni gymaint yn eu cwmni nhw.

I fynd yn 么l at y FUW am funud, ceir stori am wleidydd neu swyddog amaethyddol yn gofyn cwestiwn diniwed i un o'r aelodau -
"Beth y'ch chi'n godi ar y tir `ma?"
"O, codi pobol y' n ni' n wneud yma".

Diolch amdanyn nhw a'r dylanwad gawson nhw sy'n egluro mwy na thebyg pam y bues i heddiw mewn gweithdai a seminarau yn ymwneud 芒 chyfiawnder i bobl llai ffodus na fi.

Erthygl enillodd Coron Hwyl yr Hogwr 2005
Gan Heulwen Thomas


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 成人论坛 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy