Diflannodd llawer o glybiau, ond mae clwb Pen-y-bont yn parhau i ffynnu. Bob blwyddyn cynhelir cystadlaethau lleol, a'r gorau yn mynd ymlaen i gystadlu ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Yn ddiweddar bu aelodau clwb Pen-y-bont yn llwyddiannus dros ben, gan gipio gwobr y gorau ym Morgannwg. Daeth mwy o anrhydedd i un aelod ifanc, Catherine Anthony o Tythegston. Hi enillodd gwpan arbennig yr aelod ifanc unigol orau, ac aeth ymlaen i gipio'r wobr dros Gymru gyfan. Yn rhinwedd y wobr, Catherine oedd y llysgennad iau yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ddiwedd Gorffennaf . Daeth 芒 chyfle arbennig i ferch 16 oed i ehangu ei phrofiad y tu mewn i gylch diogel ac addysgol. Mae Catherine yn dysgu'r iaith Gymraeg, yn ddisgybl yn ysgol Bryntirion a newydd gwblhau ei arholiadau TGAU. Dywed Catherine am y pedwar diwrnod yn Llanelwedd ei bod hi wedi mwynhau'r profiad, and yn cydnabod ei bod yn nerfus. Gofynnwyd iddi fod yn bresennol mewn derbyniadau a chyfarfod pobl bwysig gan gynnwys y Tywysog Edward, ond uchafbwynt ei chyfrifoldebau oedd hebrwng yr Iarlles Essex o gylch arddangosfa y Ffermwyr Ifainc. Y pwnc eleni oedd 'Y Caribi', a chafwyd llawer i ddehongliad yn yr arddangosfa greadigol yn ogystal 芒'r coginio, gwaith coed ac ati. Dangosodd yr Iarlles ddiddordeb mawr ym mhopeth, a gorfod iddi ruthro oddi yno i gyflawni ei dyletswyddau eraill ar y maes. Erys y ffermwyr ifainc mewn pentref, hynny yw casgliad o garafannau a phebyll ryw filltir o faes y Sioe ei hun, a rhaid cyrraedd erbyn nos Sul i gael y safleoedd gorau. Arhosodd merched clwb Pen-y-bont mewn pabell pedair ystafell. Cafodd Catherine fwy nag un broblem yn ystod yr wythnos - yn gyntaf yr oedd yn rhaid iddi godi'n gynnar wedi nosweithiau hwyr, a dim and dwr oer oedd yn y cawodydd. Ond beth yw hyn pan ydych and 16 oed! Gwahoddwyd Comisiynydd Amaeth Ewrop Franz Fischler i'r Sioe gan y ffermwyr ifainc. Yr oedd brecwast wedi ei drefnu iddo ond aeth yr amser, a gadawodd heb brofi'r bwyd. Bu'n traethu am ddyfodol amaeth a chefn gwlad, a gofynnwyd lawer cwestiwn pwrpasol gan yr ifanc. Dywedwyd iddynt gael trafodaeth dda. Anogodd Franz Fischler iddynt beidio a phyderu yn ormodol am y dyfodol, and roedd llawer yn amau ei Ym mis Hydref bydd Catherine yn cynrychioli Cymru ac yn cael cyfweliad yn Stoneleigh i ddewis yr ifanc orau o Brydain. Ein dymuniadau gorau iddi. Eurwen Richards
|