Roedd yna barch mawr iddo, yn enwedig yng Nghwm Llynfi lle y gwasanaethodd fel gweinidog yr Efengyl. Yn ystod y cyfnod hwn bu yn gymwynaswr ymroddedig ac yn gyfaill i lawer.
Bu'n weinidog ffyddlon i'r aelodau yn Eglwys Annibynnol Canaan Maesteg am bron i 42 o flynyddoedd. Ei oedfa olaf yno oedd ar fore Sul y 12fed o Chwefror eleni pryd y gweinyddodd y Cymun Sanctaidd a hynny ond rhyw dridiau ar 么l iddo ddychwelyd adref o ysbyty Castell Nedd/Port Talbot.
Bu hefyd yn gofalu am Eglwys Annibynnol Bethesda Llangynwyd am dros bymtheg mlynedd ar hugain. Yn anffodus gwelodd gau'r capel hynafol hwn ar ddechrau'r ganrif bresennol. Gwasanaethodd yn y mwyafrif helaeth o gapeli Cymraeg a Saesneg y cwm ac hefyd mewn niferoedd o gapeli tu allan iddo.
Gwasanaethodd fel ysgrifennydd Cyfundeb Cynffig Nedd am ddegawdau ac ef oedd cadeirydd olaf y Cyfundeb hwnnw. Edrychai ymlaen yn eiddgar i wasanaethu yng Nghyfundeb Dwyrain Morgannwg, y cyfundeb y daeth Eglwys Canaan Maesteg yn aelod ohono ers dechrau'r flwyddyn, ond nid felly bu.
Oherwydd prinder gweinidogion yn y Cwm roedd galw mawr am ei wasanaeth mewn angladdau, nid yn unig y byddai yn gwasanaethu'n eu hangladdau byddai hefyd yn ymweld 芒'r teuluoedd hynny gan gynnig cysur yr Efengyl iddynt yn gyson.
Ymaelododd 芒 Chymdeithas T欧'r Cymry pan symudodd i Faesteg yn 1964 a mawr fu ei wasanaeth i'r gymdeithas honno dros y blynyddoedd. Bu'n ysgrifennydd i "Gyfeillion Ysbyty Gyffredinol Maesteg" am dros 30 o flynyddoedd ac fe wasanaethodd hefyd fel caplan i'r ysbytai lleol. Gwasanaethodd fel cadeirydd y Gymdeithas Hanes leol am 25 mlynedd ond roedd yn fwriad ganddo i ymddeol o'r swydd yn ystod y misoedd nesaf hyn. Roedd hefyd yn aelod o gangen leol y Rotary.
O Ynys M么n yn wreiddiol
Roedd y Parchg. Robin J. Williams yn enedigol o bentref Bryngwran Ynys M么n. Amaethwyr oedd ei deulu gan fwyaf, ac yn 么l y drefn deuluaidd roedd ef i ddilyn y traddodiad hwn. Yn un ar ddeg oed symudodd i Ysgol Cybi a oedd ar draws y ffordd i'r ysgol Ramadeg yng Nghaergybi.
Wedi gadael yr ysgol aeth i weithio ar fferm er fod hyn yn gas beth ganddo. Serch hynny dysgodd odro gyda'i ddwylo ac aredig y tir. Yn y gobaith o gryfhau ei ddiddordeb mewn ffermio cafodd ei hun yn gweithio i ffrindiau'r teulu ar fferm T欧'n Llwydan. Tra yno ymaelododd ag eglwys Hermon, Bodorgan, (capel sydd bellach wedi cau), gan fynychu gwasanaethau ar y Sul ac yn ystod yr wythnos. Dim ond am ychydig flynyddoedd y gweithiodd ar y fferm.
Y cam nesaf iddo oedd mynd i Gaer i dderbyn hyfforddiant mewn gofolaeth dros blant. Ar ddiwedd y cwrs derbyniodd swydd mewn ysgol fonedd a berthynai i'r Annibynwyr ym Mill Hill. Roedd y profiad yno yn hollol wahanol i'r un a gafodd ar Ynys M么n. Tra yno mynychai gapel King's Cross, Llundain.
Ymuno 芒'r fyddin
Ar 么l tair blynedd yno daeth y rhyfel a bu rhaid iddo ymuno 芒'r fyddin a threuliodd y rhan fwyaf o'r amser gyda'r Royal Artillery yn Dover. Wedi pum mlynedd yn y fyddin aeth n么l adref i weithio ar y fferm a mynychu eto gapel Hermon ac o'r capel hwnnw y cychwynnodd am y Weinidogaeth.
Wedi treulio blwyddyn yng Ngholeg Clwyd yn y Rhyl o dan hyfforddiant y Parchg. R.S. Hughes aeth i Goleg Coffa Aberhonddu. Ar ddiwedd y cwrs yno derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar eglwys Annibynnol Pant-y-crwys, Craig-cefn-parc. Tra yno priododd 芒 Catherine Kirkhouse ysgrifenyddes Eglwys Seion y Glais; eglwys yr oedd yn ei chynorthwyo gan nad oedd ganddynt weinidog.
Yn ystod y cyfnod roedd yn weinidog ar eglwys Pant-y-crwys cafodd lawer o waith darlledu, yn arbennig rhaglenni i ysgolion.
Ar 么l saith mlynedd yng Nghraig Cefn Parc derbyniodd alwad i eglwys Canaan, Maesteg ac fe'i sefydlwyd yno ym Mehefin 1964.
Cynhaliwyd ei angladd yng Nghapel Canaan, ac yna yn Amlosgfa Margam, ar yr 20fed o Fawrth o dan ofal ei gyfaill y Parchedig Alwyn Evans, Maesteg. Cynorthwywyd ef gan y Parchedigion Euros Miles (Ruhamah Pen-y-bont a Noddfa Porthcawl), E.D. Morgan Llanelli (cyn weinidog yr eglwys) a Milton Jenkins, Caerffili (cyn weinidog Bethania, Maesteg). Cafwyd teyrngedau iddo gan Mr Jeff Woods, Swydd Efrog (mab i ffrind agos iddo) a'r Parchedigion Gareth Morgan Jones (Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg) ac Alwyn Evans.
Yna yn yr Amlosgfa cynorthwywyd y Parchg. Alwyn Evans gan y Parchedigion Hywel Wyn Richards, Tabernacl, Pen-y-bont (is lywydd yr Undeb), Meirion Evans, Porth Tywyn (cyn lywydd yr Undeb a chyn Archdderwydd Cymru), E.T. Stanley Jones (Cwmafan) ac Euros Miles.
Rhoddwyd hefyd deyrnged iddo gan y Parchg. Dewi Myrddin Hughes, (Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).
Gwelwyd cynulleidfa niferus lawn yn y ddau leoliad a oedd yn arwydd o'r parch a ddangoswyd i'r Parchedig Robin J. Williams yn y cyffiniau a thu hwnt. Yn eu plith roedd yna nifer o weinidogion, yn cynrychioli'r gwahanol enwadau.
Cleddir ei lwch ym medd ei briod ym mynwent eglwys Pant-y-crwys, Craig-cefn-parc. Gweinyddir yno gan un a fedyddiwyd ganddo, y Parchedig Sion Alun (Sgeti, Abertawe).
Estynnwn ein cydymdeimlad i'w frawd a'i chwaer ac aelodau eraill o'r teulu yn eu galar.