Mae Beryl Thomas wedi bod yn hel atgofion am ddyddiau C么r Merched y Fro.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef ar y dechrau fod aduniadau yn anathema i mi oherwydd i mi fynd unwaith i aduniad ysgol ac i ryw ddyn dybied ein bod yn gyfoedion - bydda hynny wedi ychwanegu dwsin o flynyddoedd at fy oedran (ac yr oeddwn yn gymharol ifanc ar y pryd). Ers hynny yr wyf wedi osgoi pob aduniad.
Ond yr oedd aduniad C么r Merched y Fro yn wahanol. Cefais fy mod yn edrych ymlaen at yr achlysur a chafwyd mwynhad mawr o "ysgwyd llaw 芒 hen wynebau".
Daeth deg ar hugain ohonom ynghyd yng ngwesty'r Heronston a rhai wedi teithio cryn bellter o bedwar pwynt y cwmpawd i ddod i gwrdd 芒 hen gyfeillion. Oherwydd er mai amcan a diben y c么r oedd canu, difyrru a chystadlu, hanfod y c么r i nifer ohonom oedd cyfeillachu, cymdeithasu a chael hwyl yng nghwmni'n gilydd. Dyma achosodd y bwlch yn ein hanes dros y deuddeng mlynedd diwethaf ers i'r c么r ddirwyn i ben.
Cafwyd ymddiheuriadau niferus gan rai a hoffai fod ond yn methu oherwydd amgylchiadau amrywiol. Bu'n noson ddifyr o hel atgofion - cofio rhai megis Olive, Gracie a Linda a fu'n aelodau ffyddlon o'r c么r dros gynifer o flynyddoedd. Cofio'r teithio a'r hwyl gafwyd megis y daith i'r Almaen a'r troeon chwithig a doniol ar y daith honno.
Cofio'r Gwyliau Cerdd Dant - ein llwyddiant yng Ngorseinon, yr hwyl yng Nghorwen lle buom yn aros gyda theulu Eidalaidd mewn gwesty, a'r croeso a gawsom ganddynt.
Siaradodd Ann Williams am yr hyn fu'n digwydd iddi ers chwalu'r c么r, ac yr oedd yn hyfryd cael hanes y gwahanol aelodau - yr oedd yn anodd credu fod yr holl flynyddoedd wedi mynd heibio.
Mae diolch i Liz Anderson a Jean Thomas am wneud yr holl drefniadau, am gysylltu 芒 chyn-aelodau, am archebu'r gwesty ac am ddod 芒 ni ynghyd i fwynhau'r aduniad. Edrychwn ymlaen at yr un nesaf, efallai mewn rhyw dair blynedd i ddathlu pymtheng mlynedd ers i'r c么r chwalu, er mwyn cael cyfle eto i hel atgofion.
Beryl Thomas
|