Yn 1934 ceid sibrydion fod maes awyr i'w godi ar y safle. Bu peth gwrthwynebiad ond dechreuwyd ar y gwaith ym mis Mawrth 1938 ac fe'i agorwyd ar y 1af o Fehefin 1939, ar gost o 拢280,000.Ar y dechrau, galwyd y maes awyr yn Royal Air Force Newton Down ond erbyn Tachwedd 1940 newidwyd yr enw i Stormy Down gan fod maes awyr arall ger Nottingham o'r enw RAF Newton.
O gymharu 芒 meysydd awyr doedd o ddim yn le mawr. Rhedfa borfa yn unig oedd yno a'r hwyaf ond yn 1010 o lathenni o hyd. Serch hynny aeth dros 15,000 o fyfyrwyr drwy'r maes awyr yng nghyfnod y rhyfel. Hyn heb rifo'r Ffrancwyr ddefnyddiodd y lle ym 1945.
Pwrpas y maes awyr oedd dysgu peilotiaid a'u criwiau i fomio gwahanol fath o dargedau. I'r perwyl yma defnyddiwyd traeth Sg锚r ar ochor Port Talbot o afon Cynffig. Defnyddiwyd targedau defnydd ar y traeth a rafftiau allan ar y m么r. Ar gyfer ymarfer tanio at awyrennau symudol tynwyd targedau canfas tu 么l i awyrennau.
Ar gyfartaledd byddai'r cyrsiau yn para am rhyw naw wythnos. Ar un adeg roedd 1800 yn byw ar y maes awyr ar yr un pryd.
Trefn y dydd
Cofnodir trefn y dydd fel Reveille am 6.30, brecwast am 7.30, hanner awr o lanhau'r cabanau o 7.50 hyd 8.20 gyda phawb yn ymdeithio i'w safle gwaith erbyn 9.00. Chwarter awr am gwpanaid o de ganol bore a chinio am 12.30. Roedd gwaith y dydd yn gorffen am 4.30 y prynhawn gyda te am 4.35. Gellir defnyddio'r NAFFI tan hanner awr wedi naw y nos, yna pawb i sefyll wrth eu gwelyau i gael eu cofnodi cyn Lights Out am chwarter wedi deg.
Cedwid prynhawn dydd Mercher i chwaraeon ac ar ddydd Sadwrn byddai gwaith y dydd yn gorffen am hanner dydd. Ar ddydd Sul roedd Reveille am 7.00. brecwast am 8.00 gyda hanner awr o lanhau cabanau cyn y gwasanaeth eglwysig am 9.00.
Cinio Dolig
Dros gyfnod y Nadolig rhoddid saith diwrnod o seibiant i'r myfyrwyr, and mae bwydlen cinio Nadolig y swyddogion oedd yn gorfod aros ar y awyr yn tynnu dwr o'r dannedd. Dyma hi fel y cyhoeddir hi yn Saesneg:
"First there was tomato soup, then salmon with parsley sauce, roast turkey with stuffing and sausages or roast pork with apple sauce, potato cutlets, sprouts, peas and asparagus tips. Christmas pudding with brandy sauce was followed by hot mince pies, stilton cheese and biscuits and fresh fruit. Besides free cigarettes there was beer and minerals to wash the feast down."
Cofnodwyd y gyntaf o nifer o ddamweiniau ar ddydd Mawrth y 15fed o Awst 1939 pan laniodd awyren ar y glaswellt gwlyb a sglefrio i'r berth ar ben draw y rhedfa. Bu'r rhedfeydd glaswellt yn broblem, yn arbennig yn y gaeaf. Cofnodwyd sawl achlysur pan roedd yn rhy fwdlyd, gormod o wynt, niwl, rhew neu eira i'r awyrennau eu defnyddio.
Yr unig gofnod sydd gennym o'r maes awyr yn cael ei fomio yw am ddeuddeg munud i hanner dydd ar ddydd Mercher Awst yr 21ain 1940. Hedfanodd tair awyren Almaenig i fewn o gyfeiriad Aber Ogwr gan ollwng pedair bom yr un. Trawyd y Swyddfa Bost a lladdwyd dau oedd yn gweithio yno.
Daeth cyfnod y maes awyr i ben ar ddydd Sul 21 o Ebrill 1945, ond defnyddiwyd llawer o'r adeiladau am gyfnod gan Gyngor Pen-y-bont o 1946 ymlaen. Ym 1948 defnyddiwyd rhai o'r cabanau i gartrefu'r gweithwyr ddaeth i fewn i'r ardal i adeiladu y gwaith dur newydd ym Mhort Talbot. Defnyddiodd y Cwmni Dur y gampfa fel sinema a bu ar agor i'r cyhoedd tan 1953. Defnyddiwyd adeiladau eraill ar gyfer canolfan i'r di-gartref tan 1993.
Dengys y lluniau beth sydd i'w weld yno heddiw. Bu llawer ohonoch rwy'n siwr yn ymweld 芒'r Sunday Market a rhai efallai a'r Indoor Karting School sydd yn cael eu cynnal ar y safle heddiw. O'r ffordd fawr gellir gweld tai y swyddogion, mae'r rhain yn awr yn dai preifat, ond mae'r rhan fwyaf o'r hen faes awyr wedi ei droi yn 么l yn dir amaethyddol neu wedi diflannu i fewn i'r chwarel gerrig enfawr.
Tom Price