Fe fydd gan ddarllenwyr syniadau eu hunain ynghylch pryd yn union y daw'r haf i ben; ond i mi nid yw dyddiau hir yr haf byth yr un fath heb y gwenoliaid duon a'u sgrechiadau gwefreiddiol uwchben toeau llechi ein trefi. Mae'r aderyn yma yn gadael am haul Affrica ym mis Awst. Eisoes, mae gwyntoedd wedi chwythu dwsinau o afalau oddi ar y coed yn fy ngardd, ac maent bellach yn fwyd i'r mwyeilch; bydd rhai o'r adar hyn yn magu ail neu drydedd nythaid cyn hwyred a hyn yn y tymor. Bydd yr adar yma sydd heb ymfudo yn dechrau bwrw'u plu er mwyn paratoi ar gyfer misoedd hir y gaeaf; ond am y tro, beth bynnag, dydy pwysau'r byd o'u cwmpas ddim yn ddwys ac mae bywyd yn hawdd yn sgil cynhaeaf natur. Daw ffrwythlondeb y tymor hwn 芒 thoreth o fwyd. Mae aeron llwyni mwyar duon, ysgaw, criafol a chelyn yn aeddfedu yn y gwrychoedd, gan ddenu adar a mamaliaid bach i wledda arnynt. Mae gallu rhyfeddol y broses esblygu ym myd natur wedi gwneud i'r ffrwythau ymddangos mor flasus gan fod angen gwasgaru'r hadau yma a thraw, ac fe ddywed arbenigwyr hefyd bod hadau planhigion, fel mwyar duon, yn hadu'n well ar 么l pasio trwy system dreuliol anifeiliaid. Gwelir bod planhigion eraill, fel y bedw arian sy'n amgylchynu fy ngardd wedi datblygu ffyrdd gwahanol o wasgaru eu hadau yn ddigon pell oddi wrth y rhiant. Tua diwedd yr haf. mae'r coed gosgeiddig yma'n cynhyrchu miliynau o hadau bach adeiniog, a chaiff y rhain eu chwythu i bobman gan y gwynt, gan ymgasglu'n lluwch dan ddrws y garej. Mae gan goed masarn hadau adeiniog hefyd, ond mae'r rhain yn llawer mwy ac maent yn chwyrlio'n gyflym fel hofrenyddion gan hedfan ymhell oddi wrth y rhiant. Sylwais fod rhai coed masarn ifainc yn gwywo yn hwyr yn y tymor eleni ac meddai coedwigwr wrthyf mai gwiwerod sy'n gyfrifol, wrth iddyn nhw chwilio am y sudd melys a geir yn y rhisgl: effaith o'r haf sych efallai? Mae newid y tymhorau'n amlwg ym mhobman o'n cwmpas ac mae i'w weld ar ei orau yn ein coetiroedd brodorol. Yn araf deg bydd myrdd o liwiau porffor, coch a melyn yn disodli lliwiau gwyrddail yr haf, a chyn bo hir fe fydd y dail yma'n fwyd i bryfed genwair a ffyngoedd y pridd, dan barhau cylchder ddiddiwedd ein cymunedau naturiol. Nodiadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru
|