Roedd Mai 6ed 1989 yn ddydd o lawen chwedl yn hanes y Tabernacl - dyna ddiwrnod agor yr adeilad newydd hir-ddisgwyliedig.
Eleni, ugain mlynedd yn ddiweddarach, penderfynwyd bod achos dathlu a bod angen nodi'r achlysur mewn ffordd ymarferol. Gan fod y gr诺p Pwyth a Phaned yn cwrdd yn gyson bob yn ail wythnos a'r aelodau'n gweithio'n ddiwyd yn gwnio, gweu, gwneud cardiau a gwaith crefft o bob math penderfynwyd mai da o beth fyddai dangos peth o'u cynnyrch gan ehangu'r cyfan i ddangos gwaith creadigol aelodau'r capel yn gyffredinol.
Wedi llawer o drafod, cynllunio gofalus a pharatoi agorwyd yr arddangosfa grefftau brynhawn Gwener Ebrill 24ain a dydd Sadwrn Ebrill 25ain ar ei hyd.
Ac yn wir roedd y gwaith yn werth ei weld - cwiltiau clytwaith, siacedi gwl芒n, blancedi gwl芒n T欧 Hafan, capiau a theganau wedi eu gweu, gwaith crosio, gwaith brodio, lluniau o bob math - dyfrliw, sialc, pensil, gwaith pren - llwyau, hambyrddau, ffyn gerdded, lluniau papur gludog o'r neuadd a'r capel (gwaith plant lleiaf yr ysgol Sul), trefniannau blodau, cardiau ar gyfer pob achlysur - a'r cyfan wedi eu harddangos yn gelfydd ac yn chwaethus. Yn ychwanegol at hyn roedd fideo o rhai o bererindodau'r capel yn chwarae'n barhaus felly roedd digon ar gael i ddiddori ymwelwyr i'r arddangosfa. Yn ogystal darparwyd paneidiau a bisgedi yn y neuadd ar eu cyfer.
Daeth nifer yn ystod y ddau ddiwrnod a chwyddodd eu cyfraniadau gronfa Ap锚l De Affrica yr Annibynwyr.
|