Pan soniodd Iorwerth Davies un bore Sul bod ei fryd ar drefnu pererindod arall i aelodau'r capel - ac o gofio'r daith i Ogledd Sir Drefaldwyn a'r un a drefnwyd gan y Parchg Hywel Richards i ardal Dolgellau - roedd yr ymateb i'r gwahoddiad yn un gadarnhaol. A'r gefnogaeth yn sicr, i ffwrdd a Iorwerth a Blodwen i archwilio ardaloedd Brycheiniog a Maesyfed i ddod o hyd i fannau o ddiddordeb i bawb ac wythnosau cyn cychwyn ar y daith cafodd pob un ohonom wybodaeth fanwl am bob rhan o'r daith a chyfeiriadau penodol i gyrraedd pob lle! I ffwrdd 芒 ni ar fore braf ym mis Medi a chyrraedd Cadeirlan Aberhonddu yn brydlon gan roi cyfle i'r cwmni o 32 fwynhau'r coffi a'r scons ffres oedd yn ein haros!
Pleser o'r mwyaf i Iorwerth oedd cyflwyno ei ffrind Mr Greatorex, nid dim ond am ei fod yn hanu o Lanrhaeadr ym Mochnant (cartre Iorwerth) ond hefyd am ei wybodaeth hanesyddol am y Gadeirlan a'r cysylltiadau crefyddol 芒'r hen eglwys Geltaidd. Ie, tyfu o fod yn Eglwys y Plwyf i statws Eglwys Gadeiriol a dyma galon yr esgobaeth yn awr - y cyswllt rhwng y gogledd a'r de.
Fe glywsom ni am y Normaniaid yn adeiladu dros yr hen eglwys a da oedd sylwi bod enwau Cymraeg - Capel Ceinwen er enghraifft - wedi goroesi er gwaetha'r Normaniaid! Yn wir, yn 么l Mr Greatorex mae safle yr iaith wedi gwella i rywle yn ddiweddar.
Daeth yr ymweliad 芒'r Gadeirlan i ben a dyma'r garafan o geir ar y ffordd i gyfeiriad Capel Uchaf a Mynydd Epynt. Yno arhosom mewn man cyfleus ac ymgasglu yn yr awyr agored o gwmpas Heulwen Thomas i wrando arni yn adrodd ychydig o hanes hynt a helynt poblogaeth yr ardal hon.
Hanes ardal yr Epynt
Cafodd Heulwen ei geni a'i magu ar fferm ar ochr orllewinol i'r Epynt ac roedd yn dal i deimlo i'r byw dros y gymdeithas a chwalwyd yma adeg yr ail ryfel byd.
A dyna ni yn glustiau i gyd yn clywed am y pum afon a lifai i'r dyffryn a'r pentrefi Cymreig ar odre'r mynydd. S么n wedyn am yr enw Epynt. Efallai eich bod chi fel fi wedi derbyn yr enw heb feddwl am yr ystyr - ond dyma Heulwen yn egluro mai `Hynt llwybr yr ebolion' oedd yr enw hynafol - disgrifiad prydferth odiaith! Clywed wedyn am William Williams Pantycelyn yn croesi'r Epynt ar ei ffordd i bregethu a'n hatgoffa bod aml i gyfeiriad at yr ucheldiroedd yn ei emynau.
Pwysig yw cofio mai ardal ddiwylliedig oedd hon - capel ac ysgol yn Cilcienni yn 1856 a 50 o aelodau ac eisteddfodau di rif. Ond daeth newid mawr ar fyd yn 1939 - capten o'r fyddin yn cyrraedd i gyhoeddi bod y llywodraeth eisiau tir yr Epynt, y cartrefi a'r ffermydd a rhoi 57 niwrnod o rybudd i'r bobl ymadael. Bu rhaid i 220 o oedolion a phlant adael eu cartrefi a'u bywoliaeth! Chwalwyd y gymuned glos a gwasgarwyd y boblogaeth; roedd rhai yn gobeithio dychwelyd ond na, y milwyr biau'r tir ers hynny. The Range yw'r enw a roddir bellach ar Epynt a Burma Road yw'r ffordd sy'n mynd heibio i'r capel. Dywedodd un hen wraig oedd yn byw yno - "Mae' n ddiwedd byd yma!" - stori drist iawn.
N么l i'r ceir a bant 芒 ni at feddfaen Llywelyn ein Llyw Olaf ger pentref Cilmeri. Doedd dim maes parcio fan hyn felly y cyntaf i gyrraedd allai barcio ar ochr y ffordd - a'r lleill, wel parcio a cherdded!
Tro Beryl Thomas oedd hi nawr i gael sgwrs fach 芒 ni wrth y feddfaen am y frwydr lle cafodd ein Llyw Olaf ei drywanu i farwolaeth. Stori drist arall o gofio nad bwriad Llywelyn oedd e i ymosod ar fyddin Lloegr - Dafydd ei frawd oedd am wynebu'r gelyn a Llywelyn o'i anfodd yn cefnogi. Y tristwch mwyaf wrth gwrs oedd iddo gael ei ladd gan un o filwyr Lloegr nad oedd hyd yn oed yn gwybod mai Tywysog Cymru a laddodd!
Roedd Beryl wedi paratoi taflen o farddoniaeth ar ein cyfer, cerddi a sgrifennwyd am y digwyddiad hwn yn ein hanes gan nodi wrth ddarllen mai'r darn buddugol Cilmeri gan Gerallt Lloyd Owen haeddai'r clod uchaf yn un o Eisteddfodau'r Urdd. Cawsom ddarlleniadau gwych ganddi o'r cerddi i gyd.
Wedi'r egwyl yng Nghilmeri troi' n么l am Lanelwedd wnaeth y pererinion i grwydro a chael pryd bach cyflym.
Ymlaen wedyn i Raeadr Gwy a throi i'r chwith am Gwm Elan gan ddod ynghyd yn y Ganolfan Ymwelwyr. Roedd yn dal yn ddiwrnod heulog braf ac yno fuon ni'n gwrando ar y Doethur John Elfed Jones yn adrodd hanes y trawsnewid a fu ar yr ardal hon yn 么l yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ie, newid byd ar drigolion rhan arall o Gymru.
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd Cwm Elan yn ardal brysur fywiog iawn - mwyngloddio plwm a chopr a llawer i fferm ddefaid. A dyma'r gair pwysig eto - Ond! Roedd eisiau d诺r ar Lerpwl a Birmingham. Dyma gyfnod y Chwyldro Diwydiannol a phrinder d诺r ac felly yn 1892 cafodd Birmingham ganiat芒d i adeiladu saith cronfa yn Elan a Chlaerwen. Saith cronfa! Doedd dim amdani ond boddi eglwys, ysgol, ffermydd a chartrefi a'r trigolion i gyd yn gadael. Ar 么l cael gwared 芒'r rhain i gyd yr orchest fawr oedd codi pedwar argae rhwng 1893 a1904 a gorchest hefyd oedd codi tref i filoedd ar filoedd o weithwyr (dim ond dwy fil oedd poblogaeth Gwauncaegurwen pan oeddwn i'n byw yno!) a siop a thafarn (wrth gwrs) a baddonau a rheilffordd ond, nodyn trist arall, cafodd cannoedd o'r gweithwyr eu lladd wrth godi'r argaeau.
Doedd dim hawl nag elw i Gymru am y d诺r. Gofynnwyd y cwestiwn "Pam rhaid talu am olew ond dim ceiniog goch am dd诺r?" Mae yna fwriad i ehangu argae Claerwen a agorwyd yn 1948 a chael d诺r i lifo o afon Hafren ac yna i Loegr. Cawn weld.
Roedd yn braf iawn ar lan yr afon wrth y Ganolfan a llawer o ymwelwyr yn mynd a dod a theuluoedd yn hamddena ond roedd yn bryd i ni adael a chyfeirio ein camre tuag at y dewis le nesa.
N么l 芒 ni i gyfeiriad Rhaeadr Gwy, dilyn yr A44 y tro hwn ac anelu am Cross Gates gan gadw llygad am yr arwyddbost i Nantmel Wedi cyrraedd y pentref roedd gennym 'gyfarwyddwr traffig' heb ei ail, sef Alun Roberts Jones i'n cyfeirio ar hyd l么n gul fawn i Gapel Carmel
Capel bychan hyfryd yr olwg mewn llecyn tawel diarffordd yw Capel Carmel a phan gyrhaeddon ni roedd Alwyn Samuel eisoes wrth yr organ tra bod dau o'r aelodau, Mr John Appleby a Mrs Shirley Cadwalladr yno i'n croesawu a Iorwerth yn barod i gyflwyno'r gweinidog, y Parchg Rydn Thomas (gwr o Bontyberem yn wreiddiol) a fyddai'n cynnal gwasanaeth byr cyn i ni, y gynulleidfa, ganu emyn John Thomas Capel Cae Bach - Am fod fy Iesu'n fyw - o Ganeuon Ffydd.
Wedi'r gwasanaeth cawsom ychydig o hanes y capel gan Mr Abbeley, sy'n hanesydd lleol. Mae'n debyg bod Annibynwyr yn cwrdd yn yr ardal yn 1688, ond nid mewn capel, yn hytrach yn Fferm Neuadd Lwyd y pryd hynny. Fe aeth llawer o flynyddoedd heibio cyn codi capel Carmel a Thomas Evans, Cymro Cymraeg, oedd y gweinidog cyntaf, yn 1824. Roedd un gweinidog ganddynt o 1906 hyd !950 - cyfnod llewyrchus iawn. Diddorol nodi y rhestrir y capel hwn yn y llyfr Chapels of Wales a hefyd mewn cyhoeddiad gan wasg Seren o dan yr enw Wales' Best Hundred Churches'.
Hwn oedd ein hymweliad olaf am y dydd a phawb yn barod i droi eu golygon i gyfeiriad Llandrindod a Gwesty'r Metropole - ein cartre am ddeuddydd. Pawb wedi blino ond blinder pleserus o wybod y byddai cinio blasus a gwely cysurus yn ein haros yno a chyfle i gymdeithasu a chael clonc cyn noswylio a disgwyl am yfory a thaith newydd o'n blaenau.
Felly mwy o hanes y bererindod yn rhifyn mis Tachwedd o'r Hogwr
Jennice Jones.