Fore Sadwrn Mehefin 12fed torrodd y newyddion fod enw Mair Lovell yn Rhestr Anrhydeddau'r Frenhines a'i bod i dderbyn yr MBE am ei gwaith dros y blynyddoedd gyda Gwasanaethau Nyrsio Macmillan.
Yn niwedd y saithdegau roedd Mair yn drefnydd ymwelyddion iechyd ym Mhen-y-bont ac yn un o'r rhai a ffurfiodd bwyllgor i ddechrau Gwasanaethau Nyrsio Macmillan yn yr ardal hon. Aed ati i godi arian trwy gynnal boreau coffi a gwerthu baneri ac yn nechrau'r nawdegau dyma fentro ar agor siop elusen. Ym Mhen-y-bont oedd y siopau cyntaf, yn wir ar un adeg roedd mwy nag unn siop ond erbyn hyn mae dwy siop elusen yn codi arian at Wasanaethau Nyrsio Macmillan yn New Road, Porthcawl. Parheir i gynnal boreau coffi yn ogystal 芒 chodi arian mewn ffyrdd eraill. Un o'r mentrau diweddaraf oedd bod gwirfoddolwyr, a Mair yn eu plith, yn derbyn nawdd i gerdded milltir ar hyd rhodfa'r m么r ym Mhorthcawl. Llwyddwyd, mewn partneriaeth 芒'r awdurdod iechyd lleol, i gael gwasanaeth dwy nyrs sy'n arbenigo yn y gwaith o ofalu am gleifion sy'n dioddef o gansar ac hefyd agor hen Ysbyty Pen-y-bont ar waelod Court Road yn ganolfan i ddioddefwyr. Y Bwthyn, oedd yr enw a ddewiswyd i'r ganolfan hon ac arian a godwyd gan y pwyllgor lleol a ddefnyddiwyd i osod trefn ar yr hen ysbyty fechan a'i dodrefnu. Yn y pen draw aeth Y Bwthyn yn rhy fach i'r gofynion a llwyddwyd i sicrhau adeilad newydd ar dir Ysbyty Cymru Pen-y-Bont yn ganolfan i'r dioddefwyr. Y Bwthyn Newydd yw'r enw ar yr adeilad hwn ac, eto mewn partneriaeth 芒'r awdurdod iechyd lleol, llwyddwyd i'w ddodrefnu a'i redeg. Codwyd oddeutu 拢100,000 i'r 拢750,000 a gostiodd Y Bwthyn Newydd gan fudiad Gwasanaethau Nyrsio Macmillan yn lleol. Erbyn hyn mae trydydd nyrs Macmillan ar fin dod i weithio yn yr ardal. Cyfrifoldeb yr elusen yw talu cyflog y nyrs am dair blynedd, wedi hynny fe'i chyflogir gan yr awdurdod iechyd. Serch y llwyddiant hyn nid oes modd llaesu dwylo gan fod y gwaith yn parhau a galw cyson am gymorth fwy fyth gan wirfoddolwyr. Bu Mair yn gadeirydd y pwyllgor lleol am flynyddoedd cyn cael ei dyrchafu'n Llywydd beth amser yn 么l ond mae'n dal i weithio yn y siopau a chodi arian ar bob cyfle i Wasanaeth Nyrsio Macmillan. Cydnabyddiaeth yw'r MBE o'i gwaith cyson a diflino dros gyfnod maith. Llongyfarchiadau cynnes iawn eto Mair.
|