Cafodd dri phecyn o hadau gan ei dad pan oedd ond yn wyth mlwydd oed, a chafodd hyn effaith enfawr ar ei fywyd. Am bwy rydw i'n son? Neb llai na'r garddwr enwog Medwyn Williams. Cafodd ddarn bach o dir, tua llathen sgw芒r, gan ei dad ac aeth ati i blannu'r hade-mwstard, cres a radish. Dyma hade sydd yn tyfu'n gyflym a'u cynnyrch yn barod i'w bwyta o fewn pum wythnos. Felly, beth am annog eich plant neu eich wyrion i wneud yr un peth. Byddant wrth eu boddau yn gweld yr hadau'n tyfu'n gyflym mewn byr amser, ac yna'r pleser o fwyta eu cynnyrch eu hunain! Rhowch drywel fach yr un iddynt er mwyn iddynt deimlo'n bwysig, ac i ffwrdd a chi! Arbrofwch gyda hadau pys [rhai byr -Kelvedon Wonder neu Onward] mewn potiau. Byddant yn crogi o amgylch y pot a'r plant yn dwli eu bwyta! Fe allwch hefyd ddefnyddio growbags - un i bob plentyn a thyfu pedair neu bum taten ynddynt. Bydd eu hwynebau yn bictiwr pan fyddant yn tynnu'r wrysgen gyntaf ar 么l rhyw ddeg wythnos a gweld y tato bach fel nythaid o wyau!
Os am gael cystadleuaeth, beth am roi pot a hedyn Blodyn Haul i bob plentyn. Pwy all dyfu'r blodyn talaf? Bydd hyn yn cadw eu diddordeb hyd at yr Hydref. Cofiwch hefyd eich bod yn atgoffa'r plant o'r pwysigrwydd o olchi eu dwylo ar 么l prynhawn da o arddio gyda'ch gilydd.
Mae magu diddordeb ym myd natur yn ifanc iawn yn beth amhrisiadwy. Tynnwch sylw at y pethau sydd o'u hamgylch gan ddefnyddio'r enwau Cymraeg. Chwiliwch am fwydod, draenogod, lindys, Sioncyn y Gwair ac ambell i i芒r fach yr Haf os ydych yn ffodus o'u gweld. A pheidiwch anghofio'r adar - dysgwch yr enwau Cymraeg megis bronfraith, cnocell y coed, titw Tomos las, coch y berllan a.y.b. Mae plant wrth eu boddau allan yn yr awyr agored a dyma un o'r ffyrdd gorau i'w haddysgu drwy gael tipyn o sbort gyda'ch gilydd. Yn ara bach, daw'r plant i ddysgu am fyd natur ac wrth arddio gyda'ch gilydd, sylweddoli nad yn unig yn yr archfarchnad y ceir llysiau.
Tip y mis
Os ydych yn tyfu Clematis, nawr yw'r amser i roi dyrnaid o Growmore a thrwch o gompost gardd o amgylch y gwreiddiau. Dyma blanhigion sydd yn hoff o gadw eu traed yn oer a'u pennau yn gynnes yng ngwres yr haul!
|