Rwy'n si诺r eich bod wedi bod yn y "Grand Pavilion" lawer tro. Y llynedd, yn 2004, cyhoeddwyd llyfr sydd yn rhoi i ni ychydig o hanes yr hen adeilad rydw i mor hoff ohono. Awdur y llyfr yw Keith Morgan a'r teitl - The Grand Pavilion Porthcawl a'r cyhoeddwyr yw Tempus Publishing Ltd.Fel mae'n digwydd, codwyd y Pafiliwn tua'r un adeg 芒 Chapel y Tabernacl, ac fe gofrestrwyd y ddau adeilad gan CADW yn 1998 yn adeiladau Cofrestredig Gradd 2. Rhestrwyd y Pafiliwn oherwydd ei do ar si芒p cromen, a adeiladwyd allan o goncrid.
Fel cymaint o Borthcawl, mae hanes y teulu Brogden ynghlwm ag adeiladu y Pafiliwn. Y nhw oedd wedi cadw y darn tir gorau ar lan y m么r ar gyfer adeilad trawiadol fyddai yn rhoi rhywbeth arbennig i'r dref. Gelwid y darn yma o dir, cyn adeiladu'r Pafiliwn, yn "Gae Brogden".
Er i'r tir ddod yn eiddo i Gyngor Porthcawl, yr hen "Porthcawl Urban District Council, " yn 1915, fe aeth mwy na phymtheg mlynedd arall heibio cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle. Y rheswm pennaf dros yr oedi oedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ar y 9fed o Hydref 1931 gwelwyd y gwaith yn dechrau ar y safle. Y pensaer oedd E J E Moore. Yn 么l yr hanes seiliodd ei syniadau ar adeilad tebyg yn Singapore. Mae' n anodd credu hynny yn awr, ond y gost o adeiladu'r pafiliwn oedd 拢21,000.
Talwyd am y cloc gan gyfraniadau oddi wrth y cyhoedd. Mae iddo ddau wyneb, felly gellir ei weld yn glir wrth nesau at y Pafiliwn o'r ddau gyfeiriad ar hyd ffordd glan y m么r. Galwyd y cloc yn "Queen Alexandra Memorial Clock". Prynwyd y cloc yn siop H Clare, Siop emwaith ym mhrif stryd siopau Porthcawl, Stryd John.
Agorwyd yr adeilad ar Ddydd Llun yr 8fed o Awst 1932, ac i nodi'r achlysur cynhaliwyd cinio mawreddog yn yr Esplande Hotel, gyda'r tocynnau ar werth am 6/6 yr un. Rhyw 32.5 ceiniog yn ein harian ni heddiw !
Ychydig iawn sydd wedi newid yn yr adeilad ers ei agor yn 1932. Gwnaed y newid mwyaf yn nawdegau y ganrif ddiwethaf pan benderfynwyd gwneud defnydd mwy pwrpasol allan o'r llochesi awyr agored oedd yn arfer bod bob ochr i'r adeilad. Penderfynwyd eu troi yn swyddfeydd a lle bwyta.
I mi mae na gymeriad arbennig i'r adeilad, mae'r lle yn llawn hanes ac yn rhan annatod o Borthcawl. Dros y blynyddoedd gwelwyd perfformwyr byd eang yn troedio llwyfan y Pafiliwn, neb llai na Catherine Zeta Jones, fu yn dawnsio yno pan yn ieuanc, a Tommy Scott a'i gr诺p y Senators. "Pwy?" fe glywai chi'n gofyn, wel yr un a ddaeth yn fyd enwog dan yr enw Tom Jones.
Hefyd Paul Daniels, Cilla Black, Ken Dodd, Sian Phillips, Iris Williams a Max Boyce. Mae'r rhestr yn ddiddiwedd, heb anghofio wrth gwrs sioeau Stan Stennet. A beth am sioeau cofiadwy lleol fel rhaiYsgol Uwchradd Porthcawl ac eraill?
Alla i ddim cofio adeg y dawnsfeydd gyda'r bandiau mawr, ond rwy'n si诺r fod rhai o ddarllenwyr Yr Hogwr wedi cael y fraint o fod yno yn mwynhau'r achlysuron. Gobeithio cawn yr hanes ryw dro.
Un achlysur 'rwyf yn falch i mi fod yno yn y gynulleidfa oedd Eisteddfod y Glowyr. Yn drist iawn daeth dyddiau gorau'r eisteddfod i ben gyda diwedd meysydd glo y De. Fe hoffwn yn fawr fod wedi bod mewn un Eisteddfod arbennig iawn, y flwyddyn 1957, a'r rheswm? I glywed llais y diweddar Paul Robson yn cadw ei addewid i ddod i eisteddfod y glowyr. Yn anffodus, ar yr adeg hynny, ni chaniatawyd iddo adael America, felly trefnwyd cysylltu y Pafiliwn a stiwdio recordio yn Efrog Newydd dros wifrau y teleffon.
Siaradodd Paul Robson, a chanu, yn fyw a chynulleidfa'r Eisteddfod honno. Achlysur hanesyddol arall allai fod yn achlysur byw i un o ddarllenwyr Yr Hogwr.
Yn 1998 sicrhaodd Roger Price, oedd ar y pryd, fel rhan o'i swydd, yn gyfrifol am drefnu Eisteddfod y Glowyr, fod t芒p o'r achlysur hanesyddol yma yn cael ei wneud. Dyma'r flwyddyn y daeth mab Paul Robson draw i agor "Ystafell Paul Robson" yn y Pafiliwn.
Beth am ddyfodol yr adeilad? Mae cryn bryder wedi bod yn ddiweddar, rhai yn dweud fod y gost o gadw'r adeilad yn uwch na'i werth i Borthcawl. Alla i ddim credu hynny. Rhaid gwneud mwy o ddefnydd ohono, heb y Pafiliwn byddai yn dlawd iawn ar Porthcawl.