Hyfryd o beth oedd gweld rhywun o ardal yr Hogwr yn cerdded i lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol i dderbyn cymeradwyaeth y genedl. Cafodd Mair Davies, Island Farm Road y profiad gwefreiddiol yma wrth iddi ennill Cystadleuaeth Cyfansoddi Emyn D么n i eiriau Tecwyn Owen. Gwnaed y cyhoeddiad gan Alun Guy yn ystod Cymanfa Ganu yr Eisteddfod, a braf oedd clywed ei bod wedi dod i'r brig gyda pedwar ar ddeg wedi cynnig.
Enw'r d么n yw Cwmeithin ac mae arwyddocad arbennig i'r enw gan ei fod yn gyfuniad o Cwm sef talfyriad o Cwmdwyfran bro magwraeth Mair, a Eithin talfyriad o Cefneithin bro Gwynhaf ei g诺r ac wrth gwrs ardal ei thad yng nghyfraith Jac (Jac a Wil). Roedd tad Mair yn ddiacon yn y capel yn Cwmdwyfran, a Jac yntau yn ddiacon yn y capel yng Nghefneithin. Mae Mair yn mynnu bod ei magwraeth ym mro Cwmdwyfran wedi bod yn ddylanwad mawr arni.
Fel y gwyr llawer o'n darllenwyr mae Mair a Gwynhaf yn aelodau yng nghapel y Tabernacl Pen-y-bont o dan weinidogaeth y Parchg
Hywel Wyn Richards a hyfryd oedd clywed fod Tecwyn Owen, awdur y geiriau yn ddiacon yn y capel yn Nolgellau lle bu y Parchg Hywel Wyn Richards yn weinidog.
Llongyfarchiadau gwresog i Mair ac edrychwn ymlaen i glywed y d么n yn cael ei chanu ar draws ein hardal ni ac ar draws Cymru gyfan.
Llongyfarchiadau i Richard Howe o'r Drenewydd Porthcawl enillydd Tlws Rhyddiaith 2009 Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffniau, Adran y Dysgwyr.
Llongyfyrchiadau hefyd i Rhydian, mab Mike a Menna Jenkins, Turberville Street, Garth, Maesteg ar ennill y wobr gyntaf ar yr unawd i fechgyn rhwng 12 ac 16 mlwydd oed.
Mae Rhydian newydd orffen ei flwyddyn gyntaf yn Ysgol Gyfun Gymraeg, Llangynwyd.
|