'Dw i ddim yn gwybod amdanoch chi ond wrth ddewis cerdyn pen-blwydd ar gyfer achlysur arbennig fel 40, 50, 60 ac ati rwy'n eitha' hoff o'r cardiau yna sy'n rhoi'r flwyddyn y cafodd y person ei eni/ ei geni ac sy' n rhestru rhai o ddigwyddiadau pwysig y flwyddyn honno - 'rwy'n si诺r eich bod wedi eu gweld nhw yn y siopau.
Wel yn 1987 beth ddigwyddodd? Ydych chi' n gallu cofio?
Ionawr 1: Beijing. Wnaeth cannoedd o fyfyrwyr brotestio ar sgw芒r Tiananmen
Ionawr 20:Terry Waite yn diflannu ym Meirut.
Chwefror 4: Y pianydd Liberace yn marw
Mawrth 6: llong Herald of Free Enterprise yn roi drosodd oddi ar arfordir Zeebrugge, Gwlad Bel gan ladd o leiaf 188.
Ebrill 6: Gemau y diweddar Dduges Windsor yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant yn Genefa am 拢31 miliwn
Mehefin 11: Margaret Thatcher yn cael ei hethol fel Prif Weinidog Prydain am y trydydd tro - y tro cyntaf i'r peth ddigwydd am 160 o flynyddoedd
Awst 16: 16 o bobl yn cael eu saethu yn Hungerford gan Michael Ryan
Hydref 16: Y storm waethaf ym Mhrydain am 300 o flynyddoedd. 17 o bobl yn cael eu lladd a 15 miliwn o goed yn cwympo pan wnaeth y gwyntoedd gyrraedd 146k yr awr.
Ac, fel bydd pob athro/athrawes dros ryw oedran arbennig yn cofio, 1987 oedd dyfodiad yr anfad Gwricwlwm Cenedlaethol.
Ond i ddod yn nes adre'. Beth ddigwyddodd yma? Wel yn bersonol wna i ddim anghofio 1987 am ddau reswm. Yn gyntaf, taith arbennig iawn i wlad Israel o dan arweiniad y Parchg A Lloyd - siwrnai a ddaeth 芒'r Beibl yn fyw - ac yn ail, ymddangosiad o rifyn cyntaf Yr Hogwr.
Rwy' n cofio sut yr oedd hysbyseb bach wedi ymddangos yn y Glamorgan Gazette yn gofyn am rai oedd 芒 diddordeb mewn sefydlu papur bro i ddod i gyfarfod yng Nghlwb Brynmenyn. Wel, nid oeddwn erioed wedi bod i Frynmenyn heb s么n am fod mewn clwb - ond dyma fentro draw. Ychydig iawn oedd yn y cyfarfod cyntaf. Etholwyd Dafydd Ieuan Jones yn gadeirydd a minnau yn ysgrifenyddes. Yna yr oedd y dasg o geisio perswadio pobl i ddod at ei gilydd - galw i weld y Parchg W Rhys Nicholas a ffonio Mr John Brace o'r bocs ffonio ar West Rd Notais. Credwch neu beidio, er ein bod bron 芒 chyrraedd diwedd yr ugeinfed ganrif, nid oedd ff么n gennym yn y t欧^!
Wel, fel mae'r hen ddywediad yn mynd - "mae'r gweddill yn hanes". Ar 么l llawer o bryderu ymddangosodd y rhifyn cyntaf ar Fawrth 1 of 1987 ac mae'n dda i ddweud bod y papur yn dal i fynd ac wedi cyrraedd rhifyn 200 - ugain mlynedd yn ddiweddarach.
Gan obeithio y bydd yn parhau i'r dyfodol i hybu Cymreictod ardal bro Ogwr. Helen Davies Mwy am rifyn cyntaf Yr Hogwr
|