Fel y gwelwch o'r rhestr ganlyniadau yn y rhifyn yma mae yno ddau ffug enw, felly beth hoffem wybod yw, pwy gystadleuodd ar y frawddeg dan y ffug enw Asgell Goch a pwy gystadleuodd ar y Limrig dan yr enw Glas y Dorlan? Fe hoffem gael gwybod er mwyn cofnodi eich enwau gyda gweddill yr enillwyr.
Fel pob blwyddyn mae ein rhestr diolchiadau yn dechrau gyda'r rhai fu'n gweithio yn galed dros yr wythnosau diwethaf yn cyfansoddi. Eto eleni dywedodd Ifan Roberts, ein beirniad, iddo fwynhau yn fawr y dasg o dafoli'r cyfansoddiadau a bod safon y gwaith yn gyson uchel ar draws yr holl gystadlaethau, sydd yn glod mawr i bob un ohonoch.
Diolch i G么r Bach y Bont dan arweiniad Mrs Eira Paskin, am ddod i gynnal ein hadloniant eto eleni. Roedd eich cyfraniad yn allweddol i sicrhau llwyddiant y noson. Diolch hefyd i'r Parchg Robin Samuel am arwain y noson.
Eto rhaid diolch i Swyddogion Capel y Tabernacl Pen-y-bont am ganiat谩u i ni ddefnyddio eu hadnoddau unwaith eto a diolch i'r rhai fuodd yn paratoi cwpaned i ni gael cymdeithasu ar y diwedd. Diolch hefyd i bawb a' n cefnogodd ar y noson.
Yn olaf diolch yn fawr i Ifan am gymryd at y gwaith o feirniadu, mae ei arddull hwyliog yn sicrhau ein bod i gyd yn cael noson wrth ein bodd.
Edrychwn ymlaen at ddarllen y cyfansoddiadau yn yr Hogwr.
Llongyfarchiadau gwresog eto eleni i Mr Trefor Davies am ennill y Goron. Ei ysgrif Llwybrau a ddyfarnwyd y gwaith gorau o'r holl gystadlaethau gyda chanmoliaeth uchel gan y beirniad. Dyma'r pedwerydd tro i Trefor ennill y goron, felly llongyfarchiadau mawr iddo.
Dewi Thomas a Tom Price
|