Trist yw gorfod cofnodi hyn ond am 2.00 o'r gloch prynhawn dydd Mawrth y 9fed o Chwefror cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yng Nghapel y P卯l.
Roedd llawr y capel yn llawn a nifer dda hefyd ar yr oriel, pawb a'u hatgofion eu hunain am yr hen addoldy agorwyd yn 1786 gyda'r rhan oedd nawr yn Festri. Roedd nifer wedi teithio o bell er mwyn mynychu'r gwasanaeth.
Yn anffodus mae dau beth wedi milwrio yn erbyn y rhai a weithiodd mor galed i gadw'r achos i fynd. Lleihaodd y nifer sydd 芒'r gallu i siarad Cymraeg yn yr ardal yn sylweddol dros yr hanner canrif ddiwethaf, hefyd cefnodd y t么 iau ar yr arferiad o fynd i le o addoliad.
Disgynnodd yr orchwyl o drefnu'r gwasanaeth ar Miss Anita Walters. Llywydd y cyfarfod ocdd Mr Phillip Jones, Llywydd yr Henaduriaeth gyda'r Parchg Clive Williams wrth yr organ. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth hefyd gan y Parchg I Rees, Ficer Eglwys y P卯l, Parchg L Grabham, Capel Pisgah Mynydd Cynffig, a'r Parchg Euros Miles, Capel Noddfa Porthcawl.
Rhoddwyd hanes yr achos gan Miss Eirian Edwards ac fe fydd crynodeb o'r hanes hwnnw yn ymddangos yn Yr Hogwr yn y dyfodol agos.
|