Roedd yn arferiad mewn nifer o ardaloedd i blant fynd o amgylch yn gynnar ar fore Calan, i ganu ac i dderbyn arian neu anrheg. Roedd yn bwysig eich bod yn gwneud hyn cyn hanner dydd ac roeddech yn fwy derbyniol os yn fachgen gyda gwallt du.
Beth oedd yr arferiad neu'r g芒n yn eich ardal chwi? Dyma brofiad David Griffiths,(o ardal Llanelli.) Doedd ei dad ddim yn meddwl llawer o'r pennill cyfarwydd yma fyddai yn cael ei ganu gan fod pawb yn ei ganu:
Blwyddyn newydd dda i chi
Ac i bawb sydd yn y t欧
Dyma yw nymuniad i
Blwyddyn newydd dda i chi.
Felly dyma'r pennill ddysgodd ei dad iddo:
Mae'r flwyddyn newydd eto wedi dod,
A ninnau sydd yn canu wrth eich drws,
Gobeithio fyddwch leni
Yn iach bob un o'ch teulu
Am rhoi calennig i mi flwyddyn hon
A wnewch chi roi calennig i mi'n llon
I mi'n llon.
Mae Dave yn dal i allu ei ganu yn swynol iawn ond mae eisiau cerddor llawer gwell na fi i gofnodi'r d么n.
Dyma'r pennill fyddai Eluned yn canu wrth fynd o amgylch ardal Llanfarian ger Aberystwyth:
Calennig yn gyfan, mae heddiw'n Ddydd Calan
Unwaith, dwywaith, tair.
Mi godais yn fore, mi redais yn gyflym
I d欧 Mr Jones i mofyn Calennig.
Os gwelwch yn dda gai swllt neu chwe cheiniog,
Blwyddyn Newydd Dda am ddime neu geiniog.
Byddai yn ddiddorol clywed am y penillion a'r arferion a ddefnyddiwyd gennych pan yn blant. Edrychwn ymlaen i gyhoeddi eich cyfraniadau (ym mhapur bro Yr Hogwr).
Tom Price
Mwy am arferion y Calan
Y Fari Lwyd
|