Rydyn ni i gyd yn cwyno am rywbeth - y tywydd diflas a'r glaw (diderfyn, neu ein poenau bach a'r ffaith ein bod ni'n mynd yn hen. Pa mor aml ydyn ni'n eistedd i lawr i gyfrif ein bendithion? Mwy na' thebyg nid yn aml iawn, 芒 bod yn onest. Weithiau mae'n cymryd rhywbeth mawr i'n hysgwyd ni, ac i i'n gwneud ni feddwl. Rhywbeth fel y ddaeargryn a ysgwydodd y M么r Indiaidd ar 糯yl San Steffan 2004. Yn gorwedd yn y gwely yn gwrando ar y newyddion y bore hwnnw, roedd hi'n anodd cymryd y manylion i mewn. Mae 'na ddaeargryn wedi bod... a miloedd wedi marw yn Sri Lanka, India, Indonesia a Gwlad Thai ... bydd rhaid i mi gofio gwedd茂o dros y sefyllfa yn y gwasanaeth yn yr eglwys y bore 'ma. Dim ond rhai oriau yn 么l, yn chwilio am gyrff eu hanwyliaid, roedd maint y drychineb wedi dechrau suddo i mewn. Mae'n anodd i ni ddychmygu sut oedd y bobl yn teimlo ar 么l iddyn nhw golli popeth. Mae'r ffaith bod y ddaeargryn wedi taro yn ystod y gwyliau pan roedd pobl o'r wlad hon yn aros yn y gwledydd hyn, wedi gwneud i'r drychineb ddod yn nes adref. Nid rhywbeth sy'n effeithio ar bobl Asia yn unig ydy hon - ond rhywbeth sy'n effeithio arnom i gyd. Mae'r ffaith bod cymaint o bobl yn y wlad hon wedi rhoi yn hael i ap锚l y Tsunami yn dangos bod dioddefaint y miliynau wedi cyffwrdd 芒'n calonnau. Mewn ychydig o amser daeth miloedd o bunnau i mewn, ac aeth llawer o bobl ati i drefnu gweithgareddau i godi arian. Mae rhai wedi bod yn awyddus i helpu trwy gasglu pethau ymarferol - d诺r, bwydydd a meddyginiaeth. Mae Euryl y g诺r yn Gaplan yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin. Gwnaeth yr ysbyty ap锚l am bethau ymarferol, a threfnwyd i ddwy lori fawr gasglu'r rhoddion a'u hanfon i ffwrdd. Ar 么l cyhoeddi'r ap锚l yn fy eglwysi ar y Sul, daeth llawer o'r plwyfolion i'm swyddfa yng Nghrymych gyda bagiau plastig yn llawn o bethau ymarferol. Aeth tri llond car i lawr i'r ysbyty un bore Gwener, i ymuno 芒'r bobl eraill a oedd hefyd wedi bod wrthi yn casglu. Rwy'n si诺r bydd angen help ar y bobl druenus yn Asia am fisoedd eto. Ond mae'r ffaith bod cymaint o bobl yn y wlad hon ac yn yr ardal hon wedi dangos eu parodrwydd i'w helpu yn codi calon rhywun. Mae'r ddaeargryn yn Asia wedi ein hatgoffa ni pa mor ffodus yr ydym ni i fyw yn y wlad hon. Gadewch i ni gyfrif ein bendithion, a pheidio 芒 chwyno am y pethau bychain sydd yn ein poeni, wrth i ni gofio am y rhai sy'n dioddef yn ein byd. Dan ofal Prosiect Papurau Bro
|