Pan ddihunes i fore dydd Mawrth ar yr 8fed o Chwefror, yn hollol ymwybodol bod Clwy'r Pennau (neu'r mumps) biti'r lle, a synhwyro rhyw deimlad bach rhyfedd yn fy ng锚n, roeddwn i'n gwbod (er fy mod yn gyndyn iawn i wyneb ffaith!) fy mod wedi dal y clwy, ac o ganlyniad fyddwn yn gallu cystadlu yn ffeinal fyw y gyfres deledu Waw Ffactor ar y nos Wener ganlynol. Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth! Fe ddywedais i dro ar 么l tro "dwi'n weddol hyderus na fydda i'n dal y mumps achos bo fi 'di cal y pigiadau i gyd!" Roeddwn i'n hynod o siomedig, ac wedi edrych ymlaen at gael perfformio gyda band byw a dawnswyr proffesiynol yn y gobaith y buasai hynny yn codi fy mherfformiad (gan gofio bod un o feirniaid y rhaglen, Peredur ap Gwynedd wedi dweud "ma' ishe i Lisa dynnu i bys mas!")
Bu'n ddiwrnod o ffonio di ddiwedd wrth i griw teledu Al Fresco orfod penderfynu os oeddent yn mynd i adael i mi berfformio ai peidio oherwydd bod y clwy' yn heintus dros ben. Ar 么l derbyn cyngor gan awdurdodau S4C, fe ges alwad ff么n wrth Caryl Parry Jones yn dweud bod rhaid i mi wylio'r ffeinal ar y teledu adref yn Fferm y Capel, Mynachlog-ddu (a noder ... MYNACHLOGDDU nid Maenclochog!!!!). Ond er na ches gyfle i gystadlu am goron Waw Ffactor 2005, cefais lawer iawn o brofiadau gwych a chyfleoedd gwerthfawr iawn tra'n ffilmio'r gyfres.
Fe ddechreuodd y cyfan n么l ym mis Gorffennaf 2004 yng Ng诺yl Fawr Aberteifi, ar 么l i Caryl Parry Jones fy meirniadu yn y gystadleuaeth Unawd Allan o Sioe Gerdd yno. Fe ofynnodd hi i mi fynychu un o'r clyweliadau ar gyfer y gyfres Waw Ffactor, ac er mod braidd yn ansicr i ddechrau, es i amdani a gobeithio am y gorau.
Un o uchafbwyntiau'r gyfres i mi'n bersonol oedd clywed ymateb y pedwar beirniad ar 么l i mi berfformio yn y rownd gyntaf yn Abertawe. Allwn i ddim fod wedi breuddwydio am ymateb gwell, wrth iddynt fethu dweud unrhyw beth negyddol am fy mherfformiad. Bu hyn yn hwb mawr i'm hyder ac fe sylweddolais y diwrnod hwnnw y gallai'r rhaglen gynnig llawer iawn o gyfleoedd i mi a mynd 芒 mi gam yn nes at gyrraedd fy uchelgais, sef i fod yn gantores broffesiynol.
Ar 么l y rownd gyntaf yn Abertawe fe ddechreuodd y gwaith caled! Roedd y rowndiau nesaf yn cael eu ffilmio o fewn ychydig wythnosau i'w gilydd, felly roedd yn rhaid i ni ddysgu ac ymarfer caneuon a dawnsfeydd newydd mewn amser byr iawn. Yn ystod y cyfnod hwn, fe ddysgais i lawer am y diwydiant, ac am berfformio yn gyffredinol.
Cyn Waw Ffactor roeddwn yn credu fy mod yn gallu perfformio yn hynod hyderus o flaen unrhyw gynulleidfa, ond dysgais fod canu a dawnsio mewn stiwdio yn hollol wahanol i berfformio mewn Eisteddfod neu gyngerdd. Yn y rowndiau cyntaf, ro'n i'n ymwybodol iawn o fy hunan wrth ganu a dawnsio mewn ychydig iawn o ddillad a sodlau uchel, ond erbyn y rowndiau olaf ro'n i tipyn yn fwy cartrefol a hyderus. Dysgais hefyd bod llawer o bwyslais yn cael ei roi ar ymddygiad ac ymddangosiad. Cawsom ein hannog i beidio cwyno, a bod yn gwrtais gyda phawb, a hefyd i sicrhau ein bod yn gofalu am y corff drwy fwyta'n iach a chadw'n heini.
Yn ystod y rowndiau hyn, ro'n i'n treulio llawer o amser yng nghwmni'r cystadleuwyr eraill a'r criw teledu. Cefais fy synnu pa mor gyfeillgar oedd pawb a pha mor gartrefol ro'n i'n teimlo yn eu cwmni. Roedd Eleri Si么n yn treulio llawer o'i hamser yn cynnig cyngor i ni, ac roedd Caryl Parry Jones fel mam i ni gyd, yn sicrhau ein bod yn hapus.
Wrth edrych yn 么l ar y broses, yr hyn sy'n sefyll yn y cof yw'r holl ffrindiau a'r cysylltiadau rwyf wedi eu gwneud. Fydda i byth yn anghofio pa mor garedig a chefnogol oedd y criw teledu pan oeddwn adref yn s芒l. Roedden nhw'n fy ffonio i bob dydd, ac fe dderbyniais flodau oddi wrthyn nhw'n dweud eu bod nhw i gyd yn meddwl amdana i.
Ond beth wnaeth fy nharo i hyd yn oed yn fwy oedd y gefnogaeth a gefais gan bobol yr ardal hon. Pan ro'n i'n ffilmio'r gyfres yng Nghaerdydd, yn ystod gaeaf y llynedd, doedd dim llawer o bobol yn gwybod fy mod i'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Ond pan ddarlledwyd y gyfres ym mis Ionawr, cefais fy synnu gyda'r ymateb, yn enwedig ar 么l i bawb sylweddoli fy mod wedi cyrraedd y ffeinal. Roedd pawb yn dweud eu bod nhw'n mynd i bleidleisio drosof, a nifer wedi ffonio i ddangos eu siom a'u cydymdeimlad achos 'mod i wedi methu cystadlu. Fe wnaeth hyn i mi deimlo yn hynod o browd a balch fy mod yn perthyn i'r gymuned glos yma, a sylweddolais gymaint mae'r ardal yn golygu i mi.
Roedd gorfod gwylio Rebeca Trehearn a Francesca Hughes yn cystadlu yn ffeinal Waw Ffactor yn brofiad anodd. Ond cefais syrpreis bach neis ar ddiwedd y rhaglen wrth i Eleri Si么n ddatgan bod y dair ohonom yn mynd i fod yn canu yn Stadiwm y Mieniwm o flaen miloedd o bobol cyn g锚m Cymru yn erbyn Iwerddon. Ferlly, er bod pethau wedi ymddangos yn dywyll iawn rhai wythnosau yn 么l, roedd 'na olau ar ddiwedd y twnnel. Ymlaen i'r stadiwm nawr!
Gan: Lisa Haf Davies
(dan ofal Prosiect Papurau Bro.)