Deg band, un llwyfan, whompyn o system sain, un pabell gwrw ac wrth gwrs, bwyty gorau Cymru - y stondin 'te a tost'! Rhowch y cwbl lot mewn un cae mawr ar fferm Trefawr, Llanfyrnach a ry'ch chi hanner ffordd i Woodstock! Swnio'n syml? Yn sicr, nid ar chwarae bach ma' rhywun yn trefnu gwyl roc yng nghysgod melinau gwynt Blaenwaun! Ond dyna'n gwmws beth wnaeth Bill Davies ar ddydd Sadwrn olaf Gorffennaf eleni. Yng nghysgod y windymills (term technegol Brychan Llyr am y melinau) daeth torf go lew ynghyd i gefnogi gwyl gyntaf Music Live Ltd - er gwaetha' diwrnod o dywydd traddodiadol Sir Benfro! Pan glywais am yr wyl yn y lle cyntaf ro'n i'n gyffrous, er ychydig yn ddrwgdybus. Bu'r angen am wyl fel hon yn Sir Benfro ers blynyddoedd - ond sut byddai denu torf i safle mor anghysbell? Chware teg i Bill - roedd 么l gwaith caled wrth farchnata'r wyl. Am fisoedd, bu posteri lliwgar yn cael eu gosod dros y lle a gwefan yr wyl, www.musicliveltd.com yn gwerthu'r digwyddiad yn dda gyda thocynnau ar werth arlein. Wrth gyrraedd y maes, wedd hi'n amlwg faint o ymdrech oedd wedi mynd i'w drefnu. Roedd Bill wedi buddsoddi mewn feidr newydd - roedd hyd yn oed ganddo ei superfence ei hun i gadw'r gatecrashers mas! Ac roedd y parcio a'r stiwardio wedi'i drefnu gystal ag unrhyw Sioe neu Steddfod. Roedd hi'n bleser i'n grwp ni, Mattoidz, gymryd rhan, ac os bydd Bill yn fodlon ein cael ni n么l flwyddyn nesaf, byddwn ni yno! Mae'n amhosib adolygu'r holl fandiau oedd yn diddanu, ond wedd sawl un yn aros yn y cof. Grwp o fois ifanc lleol yw Feedbak, ac roedd eu perfformiad yn llawn egni ac angst, a'u caneuon eu hunain yn addawol iawn. Roedd setiau acwstig Brychan Llyr rhwng y bandiau hefyd yn syniad da er mwyn cadw pethau'n slic.
|