Yng nghyfarfod blynyddol Pwyllgor Gefeillio Crymych/Ploveilh (Llydaw) a gynhaliwyd yn ddiweddar derbyniwyd nifer o adroddiadau yn amlinellu yr amrywiol gysylltiadau a gweithgareddau rhwng y ddau bentref.
Soniwyd am lwyddiant cyfnewid myfyrwyr am gyfnodau profiad gwaith - bu tri myfyriwr o Lydaw - Olivier Sicard, Anne Noel ac Elsa Le Bris am gyfnodau o ddeufis yn ardal Crymych a bu Catrin Rees, Tom Morgan ac Amy Harvey yn Llydaw er mwyn gloywi eu Ffrangeg.
Mynychodd Gwyndaf Rees a Geraint Jones gynhadledd yn Nantes i drafod arwyddocad arwyddo Cytundeb rhwng Cymru a Llydaw gan Rhodri Morgan ar ran Cynulliad Cymru.
Ymwelodd 50 o fyfyrwyr Coleg Kerbanez Ploveilh 芒 Chymru ym mis Ebrill a threfnwyd diwrnodau gwaith iddynt gan staff Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac ymweliadau i Fannau Brycheiniog, yr Ardd Fotaneg, y Cynulliad a'r Pwll Mawr.
Teithiodd t卯m p锚l-droed dan 13 oed Crymych i Bloveilh ym mis Mai ar gyfer cystadleuaeth flynyddol y "Mondial Pupilles" gan ennill y cwpan am "chwarae teg". Bu dau o ddisgyblion Ysgol y Preseli, Rhydian Wyn a Si么n Davies yn cynorthwyo i hyfforddi'r t卯m fel rhan o'u cwrs Bagloriaeth Cymru.
Bu nifer o ymweliadau cyfnewid rhwng teuluoedd hefyd yn ystod y flwyddyn a diwedd Gorffennaf croesawyd 40 o drigolion Ploveilh i Grymych. Cynhaliwyd Noson Gymdeithasol/Twmpath/Fest Noz i'w croesawu gydag Einir Dafydd a'r Band yn canu ac Eurfyl Lewis yn galw'r Twmpath.
Trefnwyd rhaglen lawn o weithgareddau yn cynnwys ymweliadau 芒'r Sloe Amaethyddol yn Llanelwedd, Castell Henllys, Tyddewi, Oakwood, Dinbych y Pysgod, Sain Ffagan, y Cynulliad a thaith gerdded ar y Preseli.
Yn ystod wythnos olaf mis Hydref trefnir taith 5 diwrnod i Bloveilh ac mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno 芒'r daith. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn trip i Lydaw cysylltwch ar unwaith 芒 Des Davies (01239 841483).
|